Mae mam wedi rhannu ei diolch diffuant i dair bydwraig yn Ysbyty Neuadd Nevill ar ôl derbyn gofal eithriadol drwy gydol ei beichiogrwydd.
Canmolodd Maisie, a oedd angen monitro CTG dyddiol, y bydwragedd Tracey, Maria a Hayley am eu caredigrwydd, eu cefnogaeth a’u hymroddiad, gan ddisgrifio’r gofal a gafodd fel un “heb ei ail”.
Yr hyn a wnaeth ei phrofiad yn arbennig o arbennig oedd cysylltiad Tracey â stori Maisie ei hun. Saith mlynedd ar hugain yn ôl, bu Tracey yn gofalu am fam Maisie yn ystod ei beichiogrwydd. Fwy na dau ddegawd yn ddiweddarach, roedd hi yno unwaith eto i gefnogi’r genhedlaeth nesaf o’r teulu.
Wrth fyfyrio ar ei phrofiad, meddai Maisie:
“Mae’n eithaf hudolus. Tracey oedd bydwraig fy mam pan oedd hi’n feichiog â mi, ac rwyf bellach yn 27 oed. Roedd Tracey yno i’m helpu a’m cefnogi drwy gydol fy meichiogrwydd, ac nid oedd dim byd yn ormod o drafferth.
Mae gwybod mai’r fenyw ryfeddol hon a’m helpodd i ddod i’r byd, ac a’m cefnogodd wedyn yn ystod fy meichiogrwydd fy hun gan ofalu amdanaf fi a’m merch, yn golygu cymaint i ni. Allwn ni ddim diolch digon iddi. Mae’r menywod hyn yn haeddu’r holl gydnabyddiaeth y gallant ei chael.”
Mae straeon fel un Maisie yn tynnu sylw at effaith barhaol gofal tosturiol ac ymroddiad ein timau mamolaeth, sy’n cefnogi cenedlaethau o deuluoedd ledled Gwent yn ystod rhai o’r adegau pwysicaf yn eu bywydau.