Neidio i'r prif gynnwy

Fferyllfa Glynebwy yn Arwain y Ffordd o Ran Lleihau Gwastraff Meddyginiaeth

Mae fferyllfa gymunedol yng Nglyn Ebwy wedi dangos sut y gall cwestiwn syml wneud gwahaniaeth mawr wrth fynd i'r afael â gwastraff meddyginiaeth ac arbed arian i'r GIG. 

Yn ddiweddar, cwblhaodd H. Shackleton Ltd brosiect Gwella Ansawdd a oedd yn atal gwerth cannoedd o bunnoedd o bresgripsiynau diangen rhag cael eu dosbarthu mewn ychydig wythnosau. Mae'r fenter yn cefnogi ymgyrch Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan "Archebwch yr Hyn Sydd ei Angen Arnoch yn Unig" ac yn dilyn canllawiau cenedlaethol ar optimeiddio meddyginiaethau. 

Mae gwastraff meddyginiaeth yn broblem gynyddol ledled Cymru, mae’n costio miliynau i'r GIG bob blwyddyn ac mae’n niweidio'r amgylchedd. Yng Ngwent yn unig, mae tua £9.6 miliwn yn cael ei wastraffu bob blwyddyn ar bresgripsiynau nad ydynt yn cael eu defnyddio neu bresgripsiynau nad oes eu hangen. 

Er mwyn mynd i'r afael â hyn, gweithiodd Rhys John, Fferyllydd yr Academi Gofal Sylfaenol a Chymunedol, gyda thîm Fferylliaeth Shackleton i gyflwyno ymyrraeth syml ond effeithiol: gofyn i gleifion sy'n casglu presgripsiynau amlroddadwy a oedd angen pob eitem yn eu bag arnynt. Helpodd y gwiriad ychwanegol hwn i atal darparu diangen a lleihau gwastraff yn sylweddol. 

Dywedodd Lee Coombs, Fferyllydd Arweiniol yn H. Shackleton: 
"Dros gyfnod mor fyr o amser, cefais fy synnu wrth weld faint o gefnogaeth oedd i’r Cynllun Lleihau Gwastraff a gwerth y stoc y gellid ei ailddefnyddio. Roedd hyn sgil cwestiwn syml a ofynnwyd pan oedd cleifion yn casglu eu presgripsiynau. Nid oedd yn cymryd llawer o amser ac arweiniodd at arbedion sylweddol mewn cyfnod byr iawn o amser." 

 

Sut Gallwch Chi Helpu

Mae gwastraff meddyginiaeth yn effeithio ar bawb. Cyn i chi adael y fferyllfa, edrychwch yn eich bag a chymerwch yr hyn sydd ei angen arnoch yn unig. Os bydd meddyginiaeth yn cael ei roi yn ôl cyn i chi adael y fferyllfa, gellir ei ailddefnyddio. Gyda'n gilydd, gallwn wneud gwastraff meddyginiaeth yn rhywbeth sy’n perthyn i’r gorffennol. 

I gael rhagor o wybodaeth am yr ymgyrch "Archebwch yr Hyn Sydd ei Angen Arnoch yn Unig", ewch i: 

Eich Meds - Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan