Neidio i'r prif gynnwy

Ffordd Newydd o Gael Cymorth Iechyd Meddwl a Lles ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Ni ddylai unrhyw un orfod delio ag argyfwng iechyd meddwl ar eu pen eu hunain.

Mae gwasanaeth Iechyd Meddwl 111 (Opsiwn 2) newydd wedi lansio yn ardal Gwent, gan gynnig mynediad haws at gyngor iechyd meddwl a lles brys.

Mae’r gwasanaeth ffôn, a gyflwynwyd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan y mis hwn, yn opsiwn newydd drwy linell ffôn 111 y GIG, lle gall galwyr bwyso ar 2 i siarad â chynghorydd iechyd meddwl lleol.

Gellir ffonio'r gwasanaeth am ddim o ffôn symudol (hyd yn oed pan nad oes gredyd ar ôl) neu o linell dir, ac mae ar gael ar hyn o bryd saith diwrnod yr wythnos rhwng 9yb a hanner nos. Erbyn Ebrill 2023, bydd yn dod yn wasanaeth 24 awr.

Mae cynghorwyr iechyd meddwl y gwasanaeth sydd wedi'u hyfforddi'n arbennig wedi'u lleoli yn Ysbyty Sant Cadog yng Nghaerllion.

Mewn sefyllfaoedd lle mae bywyd yn y fantol, y cyngor bob amser yw ffonio 999 neu fynychu'r Adran Achosion Brys.

Dywedodd Chris O'Connor, Cyfarwyddwr Gweithredol Dros Dro Gofal Sylfaenol, Cymunedol ac Iechyd Meddwl:

“Mae’n gyffrous iawn i ni allu dod â’r gwasanaeth hwn i drigolion Gwent. Gwyddom fod angen cymorth iechyd meddwl a llesiant ar ein poblogaeth leol yn awr, yn fwy nag erioed, a bydd y gwasanaeth newydd hwn yn rhoi cymorth a chyngor lleol, rhad ac am ddim iddynt ar gyfer sefyllfaoedd brys.”

 

Rhwng hanner nos a 9yb, pan nad yw’r gwasanaeth ar gael eto, gall trigolion lleol gael cyngor a chymorth iechyd meddwl brys ar-lein drwy fynd i Melo Cymru Gwent | Adnoddau i’ch cynorthwyo i reoli eich lles