Neidio i'r prif gynnwy

Gallai Cadw Llygad Arbed Bywyd

Dydd Mercher 1 Chwefror 2023

Gall cyfnod y Gaeaf fod yn adeg ynysig iawn i ni gyd, ond i’r rheini ohonom sy’n hŷn, yn fregus, yn fwy agored i niwed, neu’n byw ar ein pennau ein hunain, gall fod yn gyfnod anodd, unig a pheryglus iawn.

Ym misoedd y gaeaf, mae’r rhai sy’n agored i niwed yn wynebu mwy o risg o salwch a chwympo, a all weithiau arwain at fynd yn sâl iawn ac angen derbyniad i’r ysbyty.

Gall galw heibio neu gadw mewn cysylltiad â pherthnasau a chymdogion sy’n agored i niwed wneud gwahaniaeth mawr- nid yn unig o ran gwneud iddynt deimlo’n llai unig, ond o ran eu helpu i aros yn iach dros y gaeaf a’u cadw allan o’r ysbyty. Gallai sicrhau eu bod yn iawn a bod ganddynt bopeth sydd ei angen arnynt gael effaith sylweddol ar eu hiechyd meddwl a chorfforol.

Wrth i ni ddechrau profi tymereddau isel cyson a thywydd rhewllyd, mae hefyd yn bwysig bod anwyliaid bregus yn cael eu hannog i beidio â gadael y tŷ mewn tywydd oerach, a dyna le gallai perthnasau, cymdogion a ffrindiau wneud gwahaniaeth mawr. Wrth beidio â gadael y tŷ, gall berson bregus osgoi llithro neu gwympo ar rew; lleihau amlygiad i firysau gaeaf fel peswch, annwyd, Covid-19 neu ffliw; ac osgoi gwaethygu unrhyw gyflyrau anadlol presennol.

Gallai teuluoedd a chymdogion hefyd amddiffyn anwylyn sy'n agored i niwed rhag mynd yn sâl y gaeaf hwn trwy wneud yn siŵr ei fod yn gynnes ac yn gyfforddus, wrth sicrhau bod ganddynt fynediad at wres, blancedi, dillad cynnes, a bwyd a diodydd poeth; gwirio bod ganddynt ddigon o fwyd maethlon i gynnal system imiwnedd cryf; gwirio bod ganndynt cwpwrdd meddyginiaeth llawn; a sicrhau bod ganddynt ddigonedd o feddyginiaeth reolaidd.

Gall cadw llygad arbed bywyd.

Dewch o hyd i gyngor ar helpu anwylyn sy’n agored i niwed, yn ogystal â chyngor ar sut i gadw’r teulu cyfan yn iach y gaeaf hwn: Gofalu am Went Gydol y Gaeaf - Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (gig.cymru)