Neidio i'r prif gynnwy

Galwad i Bob Hyfforddwr - Ymunwch â Sesiwn AM DDIM ar Helpu i Atal Anafiadau Difrifol i'r Pen-glin mewn Chwaraeon Ieuenctid

Dydd Mercher 8fed Gorffennaf 2026

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn falch o gefnogi Power Up To Play, menter elusennol a sefydlwyd gan weithwyr meddygol proffesiynol i wella lles chwaraewyr ifanc mewn chwaraeon trwy atal anafiadau difrifol i'r pen-glin.

Dros yr 20 mlynedd diwethaf, bu cynnydd sylweddol mewn anafiadau difrifol i'r pen-glin ymhlith pobl ifanc, gan gynnwys anafiadau i'r Gewyn Croes Blaenorol (ACL). Fel hyfforddwyr, rydych chi'n chwarae rhan hanfodol wrth helpu athletwyr ifanc i aros yn ddiogel, yn egnïol ac yn mwynhau chwaraeon.

Mae Power Up to Play yn cynnal sesiwn addysg hyfforddwyr AM DDIM i'ch helpu i ddysgu strategaethau ymarferol, sy'n seiliedig ar dystiolaeth, i leihau'r risg o anafiadau i'r pen-glin mewn chwaraewyr ifanc - sy'n addas ar gyfer hyfforddwyr ar draws pob chwaraeon ieuenctid.


Pryd:

Dydd Mercher 15 Gorffennaf 2026, 6:00yp - 7:30yp

Ble:

Rodney Parade, Casnewydd

 

Bydd y sesiwn yn darparu:

  • Technegau atal anafiadau
  • Strategaethau cynhesu effeithiol
  • Cyngor ymarferol y gallwch ei roi ar waith ar unwaith

 

Archebwch eich lle am ddim yma:
https://poweruptoplay.org/book-training

Helpwch bobl ifanc i barhau i chwarae'r chwaraeon maen nhw'n eu dwli arni.