Neidio i'r prif gynnwy

Perthnasau yn Rhannu eu Profiad o'r Tîm Gofal ar ôl Marwolaeth Integredig Cyntaf yng Nghymru

Dydd Mawrth 2 Awst 2022
 

Mae tîm newydd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi cymryd camau breision o ran newid y diwylliant ‘gofal ar ôl marwolaeth’.

Yn anffodus, bu farw David Roy Evans, gŵr 84 oed o Princetown, yn Ysbyty Nevill Hall ar 26 Ebrill 2022. Gan fod ei iechyd wedi dirywio’n gyflym ac yn annisgwyl, ni chafodd holl berthnasau Roy gyfle i ffarwelio ag ef mewn pryd.

“Pan adawodd y tŷ rai dyddiau’n gynharach, wnes i erioed ddychmygu na fyddai’n dychwelyd eto. Alla’ i ddim mynegi pa mor ddiolchgar ydw i fy mod wedi gallu dod i ffarwelio â Roy ar ôl iddo farw,” medd Marion Evans, gwraig Roy ers mwy na 62 mlynedd.

Yn hanesyddol, mae timau profedigaeth a thimau corffdai wedi bodoli ar wahân, ond yn ddiweddar mae’r tîm hwn wedi dangos sut y gall gwasanaeth integredig ar gyfer Gofal ar ôl Marwolaeth helpu’r profiad sy’n wynebu perthnasau’r ymadawedig.

Cysylltodd Gemma Turner a Sadie Evans, wyresau Roy, â’r gwasanaeth yn ddiymdroi, a chawsant weld eu Tad-cu'r diwrnod wedyn. Gwahoddwyd y teulu i ysgrifennu ar gardiau a chymryd eu hamser i ffarwelio yn eu ffyrdd eu hunain. Aeth aelodau’r tîm i drafferth arbennig i sicrhau bod Roy yn gafael mewn rhosyn coch, gan ei ostwng i lefel lle gallai Marion, ei wraig, ei weld a hithau yn ei chadair olwyn.

“Mewn cyfnod yn llawn straen, roedd aelodau’r tîm yn empathig ac roedden nhw’n deall y sefyllfa. Pan gawson ni ein tywys i ystafell dawel a chysurus, fe helpodd hynny i wneud profiad erchyll rywfaint yn fyw cyfforddus,” medd Gemma, wyres Roy.

“Roedd hi’n dawel yno. Doeddwn i ddim yn gwybod beth i’w ddisgwyl, oherwydd doeddwn i erioed wedi gweld person marw o’r blaen. Doeddwn i ddim yn teimlo’n ofnus ac rydw i’n falch fy mod wedi ei wneud. Cael cyfle i wneud pethau yn eich amser eich hun, heb ruthro,” medd Sadie, wyres ieuengaf Roy.

Mae’r cysylltiadau personol sydd gan aelodau’r tîm â phrofedigaeth yn sgil eu profiadau bywyd eu hunain yn sicrhau bod y gwasanaeth yn ymdrechu’n galed i ofalu am y cleifion a’u hanwyliaid yn ystod cyfnod dryslyd ac emosiynol.

“Nid corff yw e i ni. Mae’r unigolyn yn dal i fod yn glaf, hyd yn oed ar ôl iddo farw. A’r pethau bach sy’n helpu i gefnogi teuluoedd cleifion ymadawedig yn fwy fyth. Mae’r cleifion ymadawedig a’u perthnasau wrth galon popeth a wnawn,” medd Lorraine Hughes, Rheolwr Gofal ar ôl Marwolaeth.

Ymhellach, mae aelodau angerddol y tîm wedi bod yn codi arian elusennol ochr yn ochr â chyfranwyr er mwyn helpu i greu blychau atgofion, ac yn ddiweddar llwyddodd Lorraine i awyrblymio er budd yr ymdrechion hyn. Mae modd i’r blychau hyn gynnwys olion dwylo neu gudynnau gwallt yr anwyliaid, ynghyd â chalonnau piws ar gais y teuluoedd.

“Mae llawer o atgofion Mam-gu a’r cysur a gafodd hi gyda Roy wedi deillio o afael yn ei law, wastad yn gynnes, gan ei chadw’n ddiogel. Mae olion dwylo yn rhywbeth mor syml i’w wneud, ac mae’n golygu cymaint inni fod olion dwylo Roy wedi cael eu cymryd heb i neb ofyn inni hyd yn oed. Ar adegau fel hyn, mae’n hi’n anodd meddwl yn glir, felly mae cael olion ei ddwylo fel rhywbeth i gofio, heb inni orfod gofyn, yn rhywbeth a werthfawrogwn yn fawr,” medd Gemma.

“Roedd e’n glyfar iawn, yn ddeallus iawn. Yn ystod ei fywyd, bu’n Gapten Clwb Rygbi Rhymni a Chlwb Golff Tredegar a Rhymni. Yn ystod ei ddyddiau yn y fyddin, ei lysenw oedd ‘Pathfinder’. Roedd e wastad yn arwain y ffordd inni,” medd Sadie, wyres ieuengaf Roy.

Ar y rhan fwyaf o safleoedd y bwrdd iechyd, mae’r gwasanaeth bellach yn cynnig swyddogaeth cymorth wyneb yn wyneb sy’n ymdrin â’r cyfnod rhwng marwolaeth cleifion hyd at yr adeg y cânt eu rhyddhau i ddwylo’r trefnwyr angladdau. Mae’r gwasanaeth hwn yn defnyddio dull cydweithredol o weithio gyda gwasanaethau eraill hefyd, fel cofrestryddion, trefnwyr angladdau, elusennau, a’r Gwasanaeth Archwilio Meddygol newydd.

Mae aelodau’r tîm yn cysylltu â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i fwrw ymlaen â dogfennau, maent yn cydgysylltu gwaith papur ac yn cynnig cymorth pan fydd perthnasau’n dod i weld cleifion i’r ysbyty. Hefyd, mae’r tîm yn cyfeirio teuluoedd yr ymadawedig at gymorth er mwyn iddynt allu dod o hyd i’r cymorth iawn wrth symud ymlaen, gan sicrhau bod yr holl gleifion yn cael yr un gofal urddasol, priodol a’u bod yn cael eu trosglwyddo’n ddiogel i ofal trefnwyr angladdau. Golyga hyn fod y teuluoedd yn cael eu hysbysu ynghylch popeth, a bod y broses mor llyfn â phosibl.

“Oherwydd y gwaith papur yr oedd yn rhaid ei lenwi cyn y gallai’r trefnwr angladdau ei nôl, bu’n rhaid aros am 10 diwrnod cyn iddo gael ei drosglwyddo i ddwylo’r trefnwr angladdau. Felly, pe na bai’r tîm wedi cynnig y gwasanaeth hwnnw, fydden ni ddim wedi gallu ei weld,” medd Gemma.

“Fe wnaethon nhw holi sut oedd Mam-gu, anfon e-byst i’n cynorthwyo a rhoi gwybod inni ble i droi am help. Fe gawson ni amser i roi trefn ar ein meddyliau fel teulu, prosesu’r hyn a oedd wedi digwydd a dweud ffarwél. Hoffwn ddweud gair o ddiolch - oni fyddai’n hi’n wych pe bai modd i bawb gael y gefnogaeth a gawson ni ar ôl colli rhywun,” meddai wedyn.

Mae teuluoedd eraill wedi rhoi adborth hefyd, ac maent hwythau hefyd yn ddiolchgar am y gwasanaeth. Dyma a ysgrifennodd un perthynas, Zara Phillips: “Rydych chi’n gwneud gwaith anhygoel. Rydw i’n siŵr eich bod yn dod â chysur i gynifer o bobl, yn cynnwys ein teulu ni. Diolch, alla’ i byth dalu’n ôl ichi, fe wnaethoch chi roi cysur i’m teulu yn ystod y cyfnod hwn. Diolch unwaith eto am heddiw, am estyn llaw imi, fe aethoch chi y tu hwnt i’r holl ddisgwyliadau er ein budd.”

Y syniad sydd wrth wraidd hyn oll yw cynnig un pwynt cyswllt. Mae bod ag un tîm i gysylltu ag ef yn gweithio’n dda o ran cynorthwyo teuluoedd os ydynt angen diweddariad neu wybodaeth am y broses anodd hon.

“Mae gennym ni dîm gwych. Mae’r naill aelod yn cefnogi’r llall ac yn gwybod pa mor bwysig yw cynnig gofal o’r radd flaenaf yn ystod adegau trawmatig. Rydw i’n gobeithio y bydd modd inni barhau i gynnig hyfforddiant ac arweiniad i weithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill er mwyn sicrhau y caiff y cleifion eu trin gyda pharch ac urddas bob amser, yn ystod eu bywydau ac ar ôl iddyn nhw farw,” medd Lorraine.

Mae’r Bwrdd Iechyd yn hyderus y bydd y gwasanaeth yn parhau i dyfu, ac mae’r tîm wedi helpu i gynnig cyngor ynghylch camau blaengar y gellir eu cymryd gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol o fewn y Bwrdd Iechyd hwn ac mewn Byrddau Iechyd eraill ledled y wlad.