Mae'r data gwyliadwriaeth diweddaraf, gan gynnwys data gan feddygon teulu, profion mewn ysbytai ac achosion wedi'u cadarnhau mewn gwahanol leoliadau, yn dangos bod y ffliw ar gynnydd a bod tymor y ffliw wedi dechrau'n gynharach nag arfer.
Mae lefelau'r ffliw yn parhau'n isel ar hyn o bryd, ond disgwylir i nifer yr achosion godi dros yr wythnosau nesaf. Fel arfer, mae tymor y ffliw yn dechrau tua diwedd mis Tachwedd neu ddechrau mis Rhagfyr, felly mae'r gweithgarwch presennol hwn tua mis yn gynharach nag yn y tymhorau diweddar.
I ddarllen yr erthygl newyddion lawn, ewch i: Grwpiau cymwys yn cael eu hannog i gael eu brechu wrth i dymor y ffliw ddechrau'n gynnar - Iechyd Cyhoeddus Cymru
Am wybodaeth am frechiadau, ewch i: Imiwneiddiadau - Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan