Neidio i'r prif gynnwy

Grymuso staff cartrefi gofal gyda gwybodaeth am faeth: Tîm Deieteg Iechyd y Cyhoedd yn arwain menter hyfforddi

Mae Marie Roberts, Dietegydd Arbenigol a Katie Millward, Ymarferydd Cynorthwyol, o Dîm Deieteg Iechyd y Cyhoedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, wedi bod wrthi’n frwd yn darparu cwrs ‘Sgiliau Bwyd a Maeth ar gyfer y rheiny sy’n Darparu Gofal’ mewn cartrefi gofal ar draws y rhanbarth. Mae’r hyfforddiant holl bwysig hwn yn rhoi gwybodaeth hanfodol i staff er mwyn eu galluogi i ddarparu maeth o safon uchel i’w preswylwyr, gan sicrhau eu bod yn derbyn y gofal gorau posibl.

Mae’r cwrs wedi’i selio ar Ganllawiau bwyd a maeth ar gyfer pobl hŷn mewn cartrefi gofal Llywodraeth Cymru, ac mae’n ail-bwysleisio pwysigrwydd cydbwysedd o ran maeth a hydradiad wrth gynnal iechyd preswylwyr.

Fel rhan o Wythnos Maeth a Hydradiad mae’r tîm yn pwysleisio’r rôl hanfodol y mae staff cartrefi gofal yn ei chwarae o ran cefnogi preswylwyr i gyrraedd pwysau iach, boed hynny’n golygu cadw eu pwysau fel ag y mae ar hyn o bryd neu fynd i’r afael â phryderon o ran eu pwysau.

“Mae’n hanfodol bod staff cartrefi gofal yn teimlo’n hyderus o ran cefnogi iechyd eu preswylwyr drwy faeth da. Rydym yn hynod falch ein bod yn gallu rhedeg y sesiynau hyn, cefnogi staff gyda’r wybodaeth sydd ei hangen arnynt a rhoi’r cyfle iddynt ofyn unrhyw gwestiwn, er mwyn sicrhau eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi’n llwyr” meddai Marie Roberts.

Diolch o galon i’r holl staff ymroddedig sy’n gweithio’n ddiflino i wneud amser bwyd yn iachach ac yn hapusach ar draws Gwent!