Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth Coffa Blynyddol ar gyfer Babanod, Plant a Phobl Ifanc - Dydd Sadwrn 7 Mehefin 2025

Gwahoddir teuluoedd a ffrindiau i ymuno â ni i gofio'r babanod, y plant a'r bobl ifanc na allwn eu dal yn ein breichiau mwyach, ond eu dal am byth yn ein calonnau.

📅 Dydd Sadwrn 7 Mehefin 2025
🕑 2:00 YP
📍 Eglwys Gadeiriol St Woolos, Casnewydd

Yn ystod y gwasanaeth, bydd canhwyllau'n cael eu goleuo er cof am yr holl blant a gollwyd ar unrhyw gyfnod o feichiogrwydd neu blentyndod.  Os hoffech i enw eich plentyn gael ei ddarllen allan, bydd cardiau ar gael yn y gwasanaeth.

Os nad ydych yn gallu mynychu ond yr hoffech i ni gynnau cannwyll er cof am eich babi neu blentyn, neu os hoffech fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Carol Taplin – 01633 493402