Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth Diogelu Iechyd BIPAB yn Ennill y 'Wobr Arwr' Fawreddog yng Ngwobrau UKPHR

Mae Gwasanaeth Diogelu Iechyd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (BIPAB) wedi’i anrhydeddu gyda’r Wobr Arwr Iechyd Cyhoeddus Cymunedol yng Ngwobrau Cofrestr Iechyd Cyhoeddus y DU (UKPHR) 2025, sy’n cydnabod ymroddiad eithriadol y tîm i ddiogelu a gwella iechyd y cyhoedd ledled Gwent.

Mae’r Gwasanaeth Diogelu Iechyd integredig yn uno Tîm Iechyd Cyhoeddus Gwent, y Gwasanaeth Brechu, a’r Tîm Ymateb Diogelu Iechyd, gan greu dull cydweithredol a di-dor o fynd i’r afael â chlefydau heintus, rheoli brigiadau, a lleihau anghydraddoldebau iechyd. Drwy gyfuno arbenigedd clinigol, gweithredol a phroffesiynol, mae’r gwasanaeth yn sicrhau ymateb cyflym ac effeithiol i heriau iechyd cyhoeddus o bob math.

Mae gwaith arloesol y tîm yn cynnwys:

  • Cynyddu canfod achosion o firysau a gludir yn y gwaed (BBVs) megis hepatitis B, hepatitis C ac HIV drwy fentrau profi cymunedol wedi’u targedu - gan sgrinio 286 o bobl mewn poblogaethau â risg uchel ac sydd wedi’i danwasanaethu.
  • Darparu profion cyflym mewn cartrefi gofal, gyda bron 400 o breswylwyr wedi’u profi am afiechydon anadlol yn 2024–2025, gan helpu i sicrhau mynediad amserol at driniaethau gwrfeirysol.
  • Datblygu llwybr clinigol newydd ar gyfer brechiad rhag y gynddaredd ar ôl dod i gysylltiad, a lansiwyd ym mis Ionawr 2025, sydd eisoes wedi cefnogi 23 o atgyfeiriadau ac wedi darparu 68 o frechiadau.

Dywedodd Yr Athro Tracy Daszkiewicz, Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus Gwent:


“Rwy’n hynod falch o’n Gwasanaeth Diogelu Iechyd am dderbyn y gydnabyddiaeth genedlaethol hon. Mae’r wobr hon yn dyst i broffesiynoldeb, ymroddiad ac arloesedd y tîm wrth ddiogelu iechyd a lles ein cymunedau. Mae eu dull cydweithredol ar draws disgyblaethau clinigol ac iechyd cyhoeddus yn enghraifft o’r arfer gorau o iechyd cyhoeddus integredig ledled Gwent.”

Mae Gwobrau UKPHR yn dathlu rhagoriaeth ac arloesedd mewn arfer iechyd cyhoeddus ledled y DU, ac mae’r anrhydedd hwn yn adlewyrchu’r ymroddiad, gwaith tîm a gweledigaeth sydd wrth wraidd Gwasanaeth Diogelu Iechyd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.