Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth Profedigaeth oherwydd Hunanladdiad ar gyfer y rhai yr effeithir arnynt gan hunanladdiad i barhau yng Ngwent

I nodi Diwrnod Atal Hunanladdiad y Byd 2024, mae’n bleser gennym gyhoeddi bod cyllid wedi’i sicrhau i gefnogi’r ddarpariaeth barhaus o wasanaethau cymorth arbenigol hanfodol i’r rhai yr effeithir arnynt gan hunanladdiad. Bydd y cymorth hwn yn cael ei ddarparu gan Sefydliad Jacob Abraham, elusen leol sydd eisoes yn adnabyddus am ei gwasanaeth rhagorol yng Ngwent.

 

Ychwanegodd Tracy Daszkiewicz, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd y Cyhoedd yng Ngwent:

 

Mae effaith hunanladdiad yn bellgyrhaeddol ac rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth i unrhyw un yng Ngwent yr effeithir arnynt gan hunanladdiad.

Mae gwasanaethau cymorth mewn profedigaeth arbenigol yn hanfodol i helpu pobl i ymdopi â’r galar cymhleth a dwfn sy’n dilyn colled mor drasig.

Ers 2020, mae pobl sy’n byw yn ardal ein Bwrdd Iechyd wedi cael mynediad uniongyrchol, yn rhad ac am ddim, i’r cymorth hanfodol hwn, ni waeth pryd y digwyddodd y farwolaeth.

Diolch i Sefydliad Jacob Abraham a 2wish am eu gwasanaethau amhrisiadwy. Rydym yn annog unrhyw un y mae hunanladdiad wedi effeithio arnynt i geisio cymorth gan y sefydliadau hyn.”

 

Bydd Sefydliad Jacob Abraham yn parhau i gynnig eu gwasanaethau amhrisiadwy i unigolion yr effeithiwyd arnynt gan hunanladdiad rhywun a oedd yn 26 oed a hŷn. At hyn, mae cymorth tebyg ar gael gan elusen Gymreig arall, 2wish, ar gyfer y rhai yr effeithiwyd arnynt gan farwolaeth sydyn plentyn neu berson ifanc 25 oed ac iau.

 

Roedd gan Bryn, therapydd o Sefydliad Jacob Abraham, hyn i’w ddweud am y gwasanaethau profedigaeth oherwydd hunanladdiad y mae’r sefydliad yn eu darparu i drigolion Gwent:

 

https://youtu.be/H3bRZNp5fgw

 

Os ydych chi neu unrhyw un yr ydych chi'n eu hadnabod yn profi teimladau hunanladdol, ewch i'n gwefan Melo i gael gwybodaeth am adnoddau a gwasanaethau a all helpu: Goresgyn Teimladau Hunanladdol | Cymorth Iechyd Meddwl a Lles (melo.cymru)

I gael rhagor o wybodaeth am yr hyn y mae’r gwasanaethau hyn yn ei ddarparu a sut i gael cymorth arbenigol yn ardal Gwent, ewch i’n gwefan Melo: Cefnogaeth i rhywun sydd wedi cael eu heffeithio gan hunanladdiad | Cymorth Iechyd Meddwl.