Neidio i'r prif gynnwy

Gweinidog yn clywed sut mae gofal dan arweiniad seicoleg yn trawsnewid bywydau ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Roedden ni’n falch o groesawu’r Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Sarah Murphy, i bencadlys Ysbyty Sant Cadog ddoe, lle cafodd weld yn uniongyrchol sut mae seicoleg yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i ofal cleifion ledled Gwent.

 
 

“Mae seicolegwyr yn Aneurin Bevan yn defnyddio dull sy’n ystyried profiadau bywyd unigolion a’r ffactorau cymdeithasol sy’n dylanwadu ar iechyd. Trwy fuddsoddi mewn cymorth yn gynnar, gallwn ddarparu canlyniadau gwell i unigolion a gofal mwy cost-effeithiol” meddai.

Canmolodd Elanor Maybury a Bethan Phillips, Cyd-Gadeiryddion Cangen Gymreig Adran Seicoleg Glinigol y BPS, y gwaith cydweithredol sydd yn digwydd yn y Bwrdd Iechyd.

Mae’r ymweliad yn rhan o fenter Psychology Matters gan y BPS, sy’n ceisio codi ymwybyddiaeth o effaith drawsnewidiol gwasanaethau seicolegol ar draws y DU.