Neidio i'r prif gynnwy

Gweithdai Lles Canser

Dydd Mawrth 25ain Tachwedd 2025

Rydym yn falch o roi gwybod i chi fod y Gwasanaeth Seicoleg Canser yn cynnig dau weithdy hunangyfeirio i gefnogi unigolion sydd wedi cael diagnosis o ganser, yn ogystal â'u ffrindiau ac aelodau'r teulu.

Mae'r gweithdai ar-lein awr o hyd hyn, a gyflwynir gan ein tîm seicoleg drwy Microsoft Teams, wedi'u cynllunio i gynnig offer ymarferol ac arweiniad emosiynol yn ystod yr hyn a all fod yn gyfnod heriol iawn yn dilyn diagnosis, neu ar unrhyw adeg yn ystod y driniaeth.

 Bydd ein gweithdai'n rhedeg ar y dyddiadau isod:


Addasu i ddiagnosis o ganser

Dydd Llun 12 Ionawr 2026

Dydd Llun 2 Chwefror 2026

Dydd Llun 9 Mawrth 2026

 

Ymdopi â meddyliau a theimladau anodd

Dydd Llun 26 Ionawr 2026

Dydd Mawrth 3 Mawrth 2026

Dydd Llun 16 Mawrth 2026


Gweithdy 1

'Addasu i Ddiagnosis' - Nod y gweithdy hwn yw eich helpu i archwilio ffyrdd o reoli newid, meithrin gwydnwch, a deall ymatebion emosiynol cyffredin.


Gweithdy 2

Nod 'Ymdopi â meddyliau a theimladau anodd' yw eich helpu i ddysgu strategaethau i ymdopi â phryder a gofid yn dilyn diagnosis o ganser.

Mae'r gweithdai hyn ar agor i unigolion sydd wedi cael diagnosis o ganser, a'u teulu a'u ffrindiau. I gofrestru i fynychu, gallwch sganio'r cod QR neu ymweld â'r dudalen ganlynol - Cefnogaeth seicolegol - Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan