Neidio i'r prif gynnwy

Gwella Bob Dydd - Wythnos Therapi Galwedigaethol

Yr wythnos hon, bydd Coleg Brenhinol y Therapyddion Galwedigaethol yn lansio ymgyrch i godi proffil Therapi Galwedigaethol, o'r enw 'Gwella Bob Dydd'. Nod yr ymgyrch hon yw rhoi'r wybodaeth i bobl wneud newidiadau a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar eu bywydau - mae bob amser yn haws gydag ychydig o help gan arbenigwr.

Beth yw Therapi Galwedigaethol?

Mae Therapi Galwedigaethol yn eich helpu i fyw eich bywyd gorau gartref, yn y gwaith - ac ym mhobman arall. Mae'n ymwneud â gallu gwneud y pethau rydych chi eisiau ac yn gorfod eu gwneud. Gallai hynny olygu eich helpu i oresgyn heriau wrth ddysgu yn yr ysgol, mynd i'r gwaith, cymryd rhan mewn chwaraeon neu golchi'r llestri. Mae popeth yn canolbwyntio ar eich lles a'ch gallu i gymryd rhan mewn gweithgareddau.

Mae hefyd yn broffesiwn sy'n seiliedig ar wyddoniaeth, iechyd a gofal cymdeithasol sy'n cael ei reoleiddio gan y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal.

 

   

Beth mae Therapydd Galwedigaethol yn ei wneud?

Mae therapydd galwedigaethol yn helpu pobl o bob oed i oresgyn heriau wrth gwblhau tasgau neu weithgareddau bob dydd – yr hyn a alwn yn 'alwedigaethau'.

Mae therapyddion galwedigaethol yn gweld y tu hwnt i ddiagnosisau a chyfyngiadau i obeithion a dyheadau. Maen nhw'n edrych ar y berthynas rhwng y gweithgareddau rydych chi'n eu gwneud bob dydd – eich galwedigaethau – ochr yn ochr â'r heriau rydych chi'n eu hwynebu a'ch amgylchedd.

Yna, maent yn creu cynllun o nodau ac addasiadau wedi'u targedu at gyflawni set benodol o weithgareddau. Mae'r cynllun yn ymarferol, yn realistig ac yn bersonol i chi fel unigolyn, i'ch helpu i gyflawni'r datblygiadau sydd eu hangen arnoch i ddyrchafu eich bywyd bob dydd.

Gall y cymorth hwn roi ymdeimlad newydd o bwrpas i bobl. Gall hefyd agor cyfleoedd newydd a newid y ffordd y mae pobl yn teimlo am y dyfodol.

 

 

Gyda phwy mae Therapyddion Galwedigaethol yn gweithio?

Mae therapyddion galwedigaethol yn gweithio gydag oedolion a phlant o bob oed sydd ag ystod eang o gyflyrau.

Yn fwyaf cyffredin, maent yn helpu'r rhai sy'n byw gyda chyflyrau iechyd meddwl, neu anableddau corfforol neu ddysgu. A byddwch yn dod o hyd iddynt yn helpu pobl i fyw eu bywyd gorau mewn sefydliadau iechyd, gwasanaethau gofal cymdeithasol, tai, addysg a sefydliadau gwirfoddol.

Dysgwch fwy am Therapi Galwedigaethol yma - https://www.rcot.co.uk/about-occupational-therapy/what-is-occupational-therapy