Datganiad wedi'i ddiweddaru ar yr achosion o Meningitis yng Nghaint gan Gyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus Gwent, yr Athro Tracy Daszkiewicz - Dydd Iau 19 Mawrth, 2026
Datganiad wedi'i ddiweddaru ar yr achosion o lid yr ymennydd (meningitis) yng Nghaint
Ymhellach i'r neges a gyhoeddwyd ddydd Llun, rydym wedi derbyn diweddariad gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ar yr achosion o lid yr ymennydd yng Nghaint.
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw achosion a amheuir nac achosion wedi’u cadarnhau o lid yr ymennydd yng Ngwent nac yn unrhyw le arall yng Nghymru sy'n gysylltiedig â'r brigiad hwn o achosion yng Nghaint.
Fodd bynnag, yn ystod yr ychydig ddyddiau diwethaf mae ein gwasanaethau wedi derbyn nifer sylweddol o alwadau ac ymholiadau ynghylch statws brechu, cymhwysedd a beth i'w wneud os oes dosau o frechlynnau wedi’u methu.
Ynglŷn â'r brechiad MenB
Ers 2015, mae babanod wedi cael cynnig y brechiad MenB, fel rhan o'r rhaglen imiwneiddio arferol. Ar hyn o bryd mae babanod yn cael y brechlyn yn 8 wythnos oed, 12 wythnos oed a thua blwydd oed.
Bydd angen tair dos o'r brechlyn MenB ar fabanod er mwyn cael amddiffyniad llawn. Gall plant sydd wedi methu dosau gael eu brechiad MenB o hyd nes y byddant yn 2 oed. Gellir trefnu dosau sydd wedi’u methu yn eu meddygfa Meddyg Teulu.
Os yw eich plentyn dros 2 oed nid ydynt yn gymwys i gael y brechlyn MenB. Ar ôl 2 oed, ni roddir y brechlyn MenB fel mater o drefn drwy'r GIG, oni bai bod eich plentyn mewn grŵp sydd mewn perygl, er enghraifft, heb ddueg neu ddueg nad yw'n gweithio'n dda iawn neu broblem gyda'u system imiwnedd.
Nid yw'r brechlyn MenB yn cael ei gynnig yn rheolaidd i blant hŷn na phobl ifanc drwy'r GIG yng Nghymru a dim ond yn breifat y mae ar gael drwy rai fferyllfeydd, clinigau teithio a meddygfeydd teulu.
Ynglŷn â'r brechlyn MenACWY
Cynigir y brechlyn MenACWY i bobl ifanc ym mlwyddyn ysgol 9 (13-14 oed) ac mae'n amddiffyn rhag pedwar math o facteria meningococcal (A, C, W, Y). Os yw'r brechlyn hwn wedi'i fethu, mae pobl ifanc yn gymwys i'w dderbyn ar y GIG, nes y byddant yn 25 oed.
Os yw person ifanc i fod i gael eu brechlyn MenACWY yn yr ysgol yn ystod yr wythnosau nesaf, dylent ei gael drwy wasanaeth nyrsio ysgolion, yn hytrach na chysylltu â'u meddygfa neu'r Gwasanaeth Brechu. Gall plant yn yr ysgol sydd wedi methu’r brechlyn Men ACWY ei drefnu drwy’r Gwasanaeth Nyrsio Ysgolion dros y ffôn ar 01633 431 685. Gall pobl ifanc sydd wedi gadael yr ysgol ac sydd o dan 25 oed drefnu brechlyn dal i fyny MenACWY trwy eu meddygfa Meddyg Teulu.
Os ydych chi rhwng 16 a 25 oed ac angen y brechlyn MenACWY, cysylltwch â'ch meddyg teulu cofrestredig yn gyntaf. Gallant wirio eich hanes brechu a threfnu apwyntiad os ydych chi'n gymwys. Os na all eich meddygfa ddarparu'r brechlyn, mae'r Gwasanaeth Brechu ar gael fel darparwr amgen, gallwch eu ffonio ar 0300 303 1373
Yn ystod yr ychydig ddyddiau diwethaf mae ein Meddygon Teulu, Nyrsys Ysgol a'r Gwasanaeth Brechu wedi derbyn nifer fawr o alwadau, yn holi am statws brechu a chymhwysedd ar gyfer brechlyn Men B a MenACWY. Cyn cysylltu, byddwch yn ymwybodol na ellir cynnig brechiadau y tu allan i'r amserlen imiwneiddio arferol.
Er nad oes unrhyw achosion yng Nghymru sy'n gysylltiedig â'r achosion yng Nghaint, mae'n bwysig bod unigolion yn ymwybodol o arwyddion a symptomau Llid yr Ymennydd a Chlefyd Meningococcal Ymledol, a all ddatblygu'n gyflym o symptomau ysgafn i salwch difrifol a gall y symptomau gynnwys:
___________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________
16/03/26
Yn dilyn newyddion trasig diweddar am farwolaethau dau fyfyriwr Prifysgol yng Nghaint, mae Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd, yr Athro Tracy Daszkiewicz, yn annog rhieni a gofalwyr i wirio cofnodion brechu eu plant a sicrhau eu bod wedi'u hamddiffyn yn llawn rhag llid yr ymennydd.
“Gall llid yr ymennydd ddatblygu’n sydyn a chael canlyniadau dinistriol. Brechu yw ein hamddiffyniad cryfaf o hyd. Rydym yn annog teuluoedd i gymryd eiliad i adolygu statws imiwneiddio eu plentyn a sicrhau nad oes unrhyw frechlynnau wedi’u methu.”
Pam mae brechu'n hanfodol
Mae clefyd meningococcal yn haint sy'n peryglu bywyd a all arwain at lid yr ymennydd neu septisemia . Er bod y rhan fwyaf o bobl yn gwella, gall rhai ddioddef cymhlethdodau corfforol, niwrolegol neu seicolegol hirdymor , ac mewn tua 1 o bob 10 achos , gall fod yn angheuol.
Gall effeithio ar unrhyw un, ond babanod, plant ifanc, pobl ifanc yn eu harddegau ac oedolion ifanc sydd mewn perygl mwyaf. “Mae brechu’n achub bywydau,” ychwanega’r Athro Daszkiewicz, “Drwy gadw at yr amserlen arferol, o fabandod hyd at flynyddoedd eu harddegau, gallwn roi’r amddiffyniad gorau posibl i’n plant.”
Beth ddylai rhieni ei wneud nawr
Rydym yn annog teuluoedd i:
Mae rhagor o wybodaeth am frechu yn erbyn llid yr ymennydd yma: Tîm Imiwneiddio Ysgolion - Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
Mae gwybodaeth am frechu ar gael ar ein gwefan: Imiwneiddiadau - Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan