Mae Diwrnod Cenedlaethol Dim Ysmygu 2022 mewn pythefnos ac rydym am i CHI ddweud na wrth ysmygu! Beth am ddefnyddio’r pythefnos hwnnw i baratoi i roi’r gorau i ysmygu ar 9fed o Fawrth? Cysylltwch â Helpa Fi i Stopio heddiw a byddwn yn eich helpu i baratoi ar gyfer bywyd di-fwg.
Gallwn eich helpu i oresgyn y pethau sy’n gwneud i chi eisiau ysmygu, i leddfu’r awydd i ysmygu ac i reoli eich ffordd o fyw. Gallwn hefyd roi therapïau disodli nicotin AM DDIM i chi i'ch helpu i lwyddo yn eich taith tuag at fywyd di-fwg.
Byddwch yn rhan o'r dathliad, dywedwch na wrth ysmygu'r Diwrnod Cenedlaethol Dim Ysmygu hwn a mwynhewch fywyd iachach yn 2022.
0800 085 2219