Yn gynharach eleni, cyflwynodd Comisiwn Bevan wobr ‘Dr Daryl Harris’ i ddau gyfranogwr yn 9fed Carfan Rhaglen Enghreifftiol Bevan.
Cyflwynwyd y wobr er cof am Dr Daryl Harris, Seicolegydd Clinigol Ymgynghorol (ar y dde yn y llun) a oedd yn un o Gymrodyr Clinigol Comisiwn Bevan, ac a gafodd effaith enfawr ar lawer o’i gydweithwyr ledled Cymru gyda'i waith yn cyd-gynhyrchu Niwrostiwt ABUHB - Coleg Adferiad Niwrolegol, cyn y bu farw yn 2025.
Dyma’r rhai a dderbyniodd wobr Dr Daryl Harris:
Mynychodd gwraig, meibion a thad Daryl y seremoni yn y Senedd, a chyflwynodd ei frawd, Richard, y wobr. Esboniodd Comisiwn Bevan y rhesymau dros greu'r wobr:
"Mae'r wobr hon wedi'i chreu er cof am ein cydweithiwr a'n ffrind, Daryl Harris, y mae ei angerdd dros y GIG a'i gred ddiysgog y gellir gwella pethau wedi ysbrydoli pawb a weithiodd gydag ef."
Roedd e’n canolbwyntio ar y pethau pwysig, gan ein hatgoffa ni o pam ein bod ni yma, a gwthio - yn ysgafn, ond yn gadarn - am y newidiadau oedd bwysicaf i gleifion a staff.
Mae'r wobr hon yn cydnabod rhywun sy'n dod â'r un ysbryd i'w gwaith. Rhywun sydd wir yn malio, yn gwrthod ildio, ac yn dal ati hyd yn oed pan fydd y system yn ei gwneud hi'n anodd; rhywun sy'n gweld beth nad yw’n gweithio ac yn gwneud rhywbeth yn ei gylch; sy'n dangos y dyfalbarhad tawel, y caredigrwydd a'r penderfynoldeb yr oedd Daryl Harris yn ei ddangos bob dydd.
Cyflwynodd Dr Helen Howson y wobr ar y diwrnod a chyfeiriodd at un o hoff ddarnau o waith Daryl: www.bevancommission.org/cy/getting-under-the-bonnet-of-prudent-healthcare/
Roedd y seremoni wobrwyo yn addas i unigolyn rhyfeddol a oedd yn ein hatgoffa bob dydd o wir bwrpas Aneurin Bevan.