Rydym yn gyffrous i gyhoeddi lansiad ein Gwobr Dewis Cleifion – cyfle i gleifion, teuluoedd a'r cyhoedd gydnabod unigolion neu dimau sydd wedi mynd y tu hwnt i’r galw wrth ddarparu gofal eithriadol.
Os yw rhywun wedi:
Mynd y filltir ychwanegol i ddarparu gwasanaeth rhagorol,
Dangos tosturi ac ymroddiad rhyfeddol, neu
Darparu gofal gyda diogelwch ac ansawdd rhagorol – mae'r wobr hon yn rhoi cyfle i bobl ddweud diolch o galon.
I ddarganfod mwy am y Gwobrau Dewis Cleifion newydd ac i wneud enwebiad, ewch i Gwobr Dewis y Claf - Enwebwch Rhywun a Wnaeth Wahaniaeth!