Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth Iechyd i'w Darparu i Bob Cartref yng Ngwent

Dydd Llun 14 Mawrth 2022

Bydd canllaw newydd i helpu trigolion Gwent i ddewis y gwasanaeth gofal iechyd cywir yn cael ei ddarparu i gartrefi ar draws yr ardal o heddiw ymlaen.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi lansio’r llyfryn newydd o’r enw Gwasanaethau GIG i chi a’ch Teulu i gynnig cyngor i drigolion yr ardal pan fo angen cymorth meddygol arnynt ond maent yn ansicr ble i fynd.

I'r rhai nad ydynt am aros i'r llyfryn gyrraedd eu cartref, gellir ei weld ar-lein.

Gan bod Fferyllfeydd a Meddygfeydd yn gallu cynnig ystod fwy eang o wasanaethau a thriniaethau, mae cael gofal arbenigol yn nes at y cartref bellach yn haws nag erioed, ond mae'n bwysig i breswylwyr ddeall y newidiadau hyn fel y gallant gael mynediad at y gwasanaeth cywir pan fydd ei angen arnynt.

Mae’r llyfryn hefyd yn cynnig cyngor ar gadw’n iach drwy fwyta’n iach, ymarfer corff a gofalu am les meddwl, yn y gobaith y bydd arwain ffordd iachach o fyw yn gweld llai o drigolion angen gwasanaethau ysbyty, ac yn ei dro, yn lleddfu’r pwysau ar wasanaethau GIG lleol.

Yn dilyn agor Ysbyty Athrofaol y Faenor bron i 18 mis yn ôl, mae’r Bwrdd Iechyd yn awyddus i wneud yn siŵr bod pobl leol yn deall yr hyn y gall gwasanaethau gwahanol ei gynnig iddynt, yn dibynnu ar eu hanghenion.

Dywedodd Glyn Jones, Prif Weithredwr Dros Dro Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan: “Gwyddom bod llawer o newidiadau a datblygiadau wedi bod i’n gwasanaethau gofal iechyd yng Ngwent ac rydym am sicrhau bod y cyhoedd yn deall yn llawn sut i gael mynediad at y gwasanaethau hyn.

“Mae ein GIG yn rhan annwyl ac hanfodol bwysig o’n bywydau i gyd, felly er mwyn ei ddiogelu, byddwn yn annog trigolion lleol i ddarllen y llyfryn i ddarganfod sut i gael y gofal mwyaf priodol yn y lle iawn.

“Rydym eisiau i bawb chwarae eu rhan i wneud yn siŵr fod y system yn rhedeg yn esmwyth – ac mae hyn yn arbennig o bwysig ar hyn o bryd, pan fo ein gwasanaethau dan bwysau sylweddol.”

 

Mae’r llyfryn newydd hwn yn ganllaw dilynol i’r llyfryn Mae Eich Gwasanaethau GIG yng Ngwent yn Newid sy’n ei anfon i bob cartref yn ardal y Bwrdd Iechyd cyn agor Ysbyty Athrofaol y Faenor yn Hydref 2020.

Mae'r llyfryn wedi'i argraffu fel dogfen ddwyieithog (Cymraeg/Saesneg) a hefyd i'r 10 iaith a ddefnyddir amlaf yng Ngwent: Bengali, Pwyleg, Arabeg, Wrdw, Slofaceg, Rwmaneg, Hwngari, Tsieinëeg- Mandarin, Tyrceg, Tsieceg. Mae ffeiliau sain yn y 12 iaith hefyd wedi'u cynhyrchu ac mae fersiynau Hawdd eu Darllen ac iaith arwyddion yn cael eu cynhyrchu ar hyn o bryd.

 

Gweler y llyfryn yn y fformatau a restrir uchod.