O fis Awst 2026 ymlaen, os ydych wedi cael triniaeth endosgopi ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn ddiweddar, mae'n bosibl y byddwch yn cael neges destun yn eich gwahodd i gwblhau arolwg byr am eich profiad. Bydd yr arolwg yn gofyn am eich barn ar y gofal a gawsoch. Dim ond os oes gennym eich rhif ffôn symudol y byddwn yn anfon y neges hon.
Hoffem glywed am eich profiad. Bydd eich adborth yn cael ei gasglu'n ddienw ac yn ein helpu i ddeall beth sy'n gweithio'n dda a beth y gallwn ei wella. Drwy rannu eich barn, byddwch yn ein helpu i ddatblygu a gwella'r gwasanaethau a ddarparwn i'n cleifion.
Dim ond ychydig funudau y mae'r arolwg yn ei gymryd i'w gwblhau, ac rydym yn eich annog i gymryd rhan a rhannu eich profiad gyda ni.
Ffyrdd eraill o rannu eich adborth
Os ydych yn ymweld â'n gwasanaethau, gallwch hefyd rannu eich barn drwy siarad ag aelod o staff neu drwy gael mynediad at yr arolwg drwy'r posteri adborth sydd wedi'u harddangos ar draws ein gwasanaethau.
Angen cymorth neu eisiau peidio â derbyn y negeseuon hyn?
Os oes gennych gwestiynau, os oes angen cymorth arnoch, neu os hoffech beidio â derbyn y negeseuon testun hyn, cysylltwch â'n Gwasanaeth Cyngor a Chyswllt Cleifion (PALS):
☎ 01633 493753 ✉ ABB.PALS@wales.nhs.uk
Os byddwch yn derbyn neges destun am yr arolwg, gallwch ddewis optio allan o dderbyn gwahoddiadau i arolygon adborth yn y dyfodol. Sylwer y bydd hyn yn berthnasol i geisiadau am adborth yn unig. Bydd negeseuon testun eraill gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, gan gynnwys y rheini sy'n ymwneud â'ch gofal neu wasanaethau eraill, yn parhau i gael eu hanfon lle bo'n briodol.
Rydym yn ymrwymedig i wella profiad pob claf sy'n defnyddio ein gwasanaethau, a diolchwn ichi am gymryd yr amser i rannu eich barn gyda ni.