Mae cleifion ledled Gwent bellach yn elwa o well gofal menopos, diolch i brosiect arloesol dan arweiniad Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.
Mae Prosiect Hyrwyddwyr Menopos, a lansiwyd ym mis Mehefin 2024, yn ail-lunio sut mae cymorth menopos yn cael ei ddarparu mewn practisau meddygon teulu. Mae'r fenter yn sicrhau bod pobl sy'n mynd trwy’r menopos yn derbyn gofal cyson, tosturiol a seiliedig ar dystiolaeth gan eu timau gofal sylfaenol.
Dan arweiniad Jayne Forrester-Paton, Meddyg Arbenigol Menopos ac Iechyd Rhywiol ac Atgenhedlu, Dr Michelle Olver, Arweinydd Clinigol y Tîm Menopos, a Nikki Noble, Ymgynghorydd Nyrsio mewn Menopos, mae'r prosiect yn arfogi clinigwyr â'r wybodaeth a'r offer diweddaraf i gefnogi cleifion trwy bob cam o'r menopos.
Hyd yn hyn, mae gan 41 practis meddyg teulu ledled Gwent Hyrwyddwr Menopws penodedig, clinigwr sydd wedi'i hyfforddi'n arbennig i gynnig cyngor a gofal arbenigol. Mae hyn yn golygu y gall cleifion ddisgwyl ymgynghoriadau mwy gwybodus a mynediad at ystod ehangach o opsiynau triniaeth, gan gynnwys therapïau hormonaidd a therapïau nad ydynt yn hormonaidd.
Cefnogir clinigwyr hefyd gan rwydwaith o gyfoedion ac arbenigwyr menopos, gan eu helpu i aros yn hyderus a sicrhau bod y wybodaeth ddiweddaraf ganddynt bob amser wrth reoli achosion mwy cymhleth.
Dywedodd Dr Jayne Forrester-Paton:
“Rydym yn falch o lwyddiant y Prosiect Hyrwyddwyr Menopos hyd yn hyn. Mae'n fodd o sicrhau bod y menopos yn cael ei drin gyda'r un gofal a sylw ag unrhyw broblem iechyd arall.
“Rydym yn parhau i dyfu'r rhaglen, ac mae gennym gynlluniau i gynyddu’r sesiynau addysgol, cyflwyno trafodaethau achos rhithwir, a chryfhau'r cysylltiadau rhwng gofal sylfaenol a gwasanaethau arbenigol.”
Am fwy o wybodaeth ewch i: Meddygon Teulu - Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan