Bydd yr A465 rhwng Brynmawr a Glanbaiden ar gau rhwng 20:30 dydd Gwener 29 Hydref - 06:00 dydd Llun 1af Tachwedd 2021. Rhaid cau'r ffordd i gwblhau gwaith na ellir ei gwblhau'n ddiogel tra bo'r ffordd ar agor neu o dan reolaeth traffig.
Mae Costain Ltd yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra y gallai hyn ei achosi.
Bydd gwasanaeth bws mini yn cael ei ddarparu i gymryd lle'r Gwasanaeth Stagecoach 3 ddydd Sadwrn. Bydd amserlen y bws mini yn gweithredu fel arfer, ond bydd llai o gapasiti eistedd. Yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru, fe'ch cynghorir y dylid gwisgo gorchudd wyneb addas. Bydd hwn yn amod teithio ar y bws mini.