Bydd Canolfan Frechu newydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, sydd wedi'i lleoli yng nghanol tref Cwmbrân, yn gwella ac yn cynorthwyo'r gwasanaethau presennol er mwyn caniatáu gwell mynediad i bobl Gwent dderbyn nifer o frechiadau achubol.
Dywedodd Nicola Prygodzicz, Prif Swyddog Gweithredol y Bwrdd Iechyd, "Mae brechu'n dal i fod yn un o'r mesurau mwyaf effeithiol a hollbwysig i atal afiechydon heintus a chadw ein cymunedau'n ddiogel. Mae lansio ein canolfan frechu newydd yng Nghwmbrân yn nodi cam arwyddocaol ymlaen o ran gwella gwydnwch ein cymuned yn erbyn salwch y gellid ei atal gyda brechlynnau.
Mae'r buddsoddiad hwn yn iechyd y cyhoedd yn ailddatgan ein hymrwymiad i ofal iechyd teg trwy sicrhau bod yr holl drigolion yn cael cyfleoedd hygyrch i dderbyn nifer o frechiadau gwahanol. Yn ogystal, trwy ddarparu gwybodaeth a chymorth dibynadwy gan ein gweithwyr gofal iechyd proffesiynol profiadol, rydym hefyd yn galluogi pobl i wneud penderfyniadau cytbwys a hyderus am eu hiechyd a'u lles eu hunain yn ogystal ag iechyd a lles eu hanwyliaid. Er y bydd y ganolfan yn cynnig gwasanaeth galw heibio, rydym yn gofyn i'n trigolion gadw at unrhyw apwyntiad brechu a allai fod wedi cael ei drefnu ar eu cyfer yn flaenorol."
Bydd y ganolfan newydd, sydd ar agor chwe diwrnod yr wythnos, yn gartref i nifer o nyrsys ac ymarferwyr imiwneiddio profiadol sy'n gallu rhoi ystod eang o frechiadau ar gyfer yr holl grwpiau oedran gan gynnwys; Pigiadau Atgyfnerthu ar gyfer Covid-19, Brechlynnau'r Ffliw, HPV a llawer un arall. Gallant hefyd ateb unrhyw gwestiynau neu bryderon ynghylch brechu. Bydd trigolion hefyd yn gallu gwirio statws eu brechlynnau ac i gael cymorth gydag arweiniad cymhwyster.
Nid yw gwasanaethau'r ganolfan yn disodli gwasanaethau sydd wedi'u sefydlu eisoes megis meddygfeydd neu fferyllfeydd - mae'n fodd o ategu a hybu darpariaeth leol y brechlynnau gyda'r nod o gadw ein cymunedau'n ddiogel ac yn iach trwy sicrhau bod brechlynnau'n fwy hygyrch ac yn fwy cyfleus i bobl ledled Gwent.
Mae rhagor o wybodaeth am y ganolfan frechu newydd ar gael yma: https://abuhb.nhs.wales/vaccinations/vaccination-pop-up-clinics