Dydd Gwener 20 Mai 2022
Mae map ar-lein newydd wedi'i lansio i helpu pobl yng Nghasnewydd i ddod o hyd i ffyrdd o wella eu llesiant. Eich Casnewydd yw’r offeryn ar-lein newydd ac AM DDIM cyffrous sy'n cysylltu pobl â phopeth a all helpu eu lles meddyliol a chorfforol yn eu hardal leol.
Dwedodd Dr Sarah Aitken, Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan:
"Mae'r ddwy flynedd ddiwethaf wedi rhoi llawer o straen ar bawb yn ein cymunedau lleol ac rydym am gefnogi ein trigolion i ddod o hyd i ffyrdd o wella eu lles mewn ffyrdd sy'n gweithio iddyn nhw. Mae map Eich Casnewydd yn gwneud hynny.
Dyma'r cyntaf o'n mapiau ar-lein i'w lansio ledled Gwent. Gyda phopeth o glybiau a gweithgareddau, i grwpiau a sefydliadau, gallwch ddefnyddio'r map am ddim hwn i ddod o hyd i bethau i'ch helpu chi a'ch teulu i wella eich iechyd a'ch lles. Fe welwch yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i gymryd rhan mewn gweithgareddau neu i ofyn am help.
Felly os ydych chi'n byw yng Nghasnewydd mae hwn yn gyfle rhad ac am ddim i ddechrau gwella eich lles heddiw a gwella eich iechyd corfforol a meddyliol."
Beth all pobl ei ddisgwyl gan Eich Casnewydd?
Datblygwyd map ar-lein 'Eich Casnewydd' gan Dîm Rhwydwaith Lles Integredig Casnewydd.
Gallwch weld y map yn: https://www.yournewport.co.uk/cy/