Mae Presgripsiynau Natur wedi'i ddatblygu mewn partneriaeth ag RSPB Cymru, ac mae’n cynnig ffordd hygyrch a rhad ac am ddim i unigolion wella eu hiechyd a'u lles trwy gymryd rhan mewn gweithgareddau syml, hunanarweiniol sy'n annog cysylltiadau dyfnach â natur. Ar eich pen eich hun neu gydag eraill, mae'r gweithgareddau hyn wedi'u cynllunio i gyd-fynd â bywyd dydd i ddydd a hybu buddion i les am oes.
Gall amrywiaeth o weithwyr iechyd proffesiynol hyfforddedig gynnig y presgripsiynau, megis meddygon teulu, presgripsiynwyr cymdeithasol, cysylltwyr lles, therapyddion galwedigaethol, a thimau cymorth strôc cymunedol. Mae hyn yn eu gwneud yn ychwanegiad hyblyg at y cymorth iechyd a lles sydd ar gael ar hyn o bryd.
Meddai David Llewellyn, Rheolwr Natur a Lles RSPB Cymru:
“Rydym wrth ein bodd ein bod wedi gweithio’n llwyddiannus mewn partneriaeth i ddatblygu Presgripsiwn Natur Casnewydd. Mae tîm Rhwydwaith Llesiant Integredig Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi chwarae rhan allweddol wrth gefnogi'r ymdrech ar y cyd hon, ac mae ein partneriaid eraill wedi bod yn amhrisiadwy.
Gellir dod o hyd i natur ym mhobman yn y ddinas, ac mae'r presgripsiynau hyn yn helpu pobl i gysylltu â hi yn lle maen nhw'n byw. Byddem wrth ein bodd yn gweld natur yn rhan bwysig o becyn cymorth pob gweithiwr proffesiynol ym maes iechyd a lles yn y dyfodol. Mae tystiolaeth yn dangos y gall cysylltu â natur leihau straen, lleddfu pryder, a helpu pobl i ddod yn fwy actif yn gorfforol.”
Mae'r fenter wedi bod yn bosibl diolch i gyllid a godwyd gan chwaraewyr y People’s Postcode Lottery ac fe’i rhoddwyd gan Postcode Planet Trust. Mae Presgripsiwn Natur Casnewydd yn adeiladu ar yr hyn sydd eisoes wedi’i gyflwyno yn yr Alban a Lloegr.
Victoria Dyer, Arweinydd Datblygu Gwasanaeth ar gyfer y Rhwydwaith Lles Integredig yn Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ychwanegodd:
“Ein rôl ni yn y Rhwydwaith Llesiant Integredig yw dod â chymunedau a gwasanaethau at ei gilydd i gryfhau’r cynnig iechyd a lles. Mae'r prosiect hwn yn enghraifft berffaith o sut y gellir gweithio mewn partneriaeth, ac mae ein cymuned dalentog wedi cyfrannu at ddelweddaeth y presgripsiwn natur hwn. Rydym yn diolch i'r RSPB am y cyfle ac yn falch o ddod â'r adnodd hwn i Gasnewydd. Gobeithiwn y bydd llawer o bobl yn elwa ohono.”
I gael rhagor o wybodaeth am Bresgripsiynau Natur yr RSPB, ewch i: www.rspb.org.uk/natureprescriptions