Neidio i'r prif gynnwy

Llongyfarchiadau i Annie! - Gwobr Nyrs y Flwyddyn RCN Cymru 2025 gan y Coleg Nyrsio Brenhinol

Mae'n bleser gennym rannu bod Annie Clothier, Nyrs Glinigol Fasgwlaidd Arbenigol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, wedi derbyn  gwobr Nyrs y Flwyddyn RCN Cymru 2025 gan y Coleg Nyrsio Brenhinol.

Llongyfarchiadau arbennig hefyd i'r rheiny a ddaeth yn ail:

  • Amanda Strange, Ymarferydd Cynorthwyol, am Wobr y Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd
  • Lisa Payne, Rheolwr Ward ar gyfer Nyrs Gofrestredig - Gwobr Iechyd Meddwl
  • Tracy Bale, Nyrs Ymgynghorol, ar gyfer Gwobr Nyrsio Arbenigol

Mae gwobr Nyrs y Flwyddyn 2025 yn cydnabod arbenigedd, gofal tosturiol ac arweinyddiaeth Annie mewn nyrsio fasgwlaidd. Mae hi wedi cefnogi gwelliannau i wasanaethau fasgwlaidd ar draws y Bwrdd Iechyd, gan gynnwys yn ystod trosglwyddo gwasanaethau acíwt i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, tra'n parhau i ganolbwyntio ar ddarparu gofal sy'n canolbwyntio ar y person.

Mae cleifion fasgwlaidd yn aml yn wynebu anghenion iechyd cymhleth a hirdymor. Mae Annie yn cwrdd â phob un ohonynt gydag empathi, cydraddoldeb, a gofal hynod fedrus, sy’n unigryw i bob claf. Mae hi hefyd wedi sicrhau cyllid gan Lywodraeth Cymru i arwain y prosiect ymchwil cyntaf dan arweiniad nyrsys i ofal clwyfau ym BIPAB.

Yn ogystal â'i rôl o fewn y Bwrdd Iechyd, mae Annie yn Gadeirydd y grŵp cenedlaethol Legs Matter ac mae’n cyfrannu at y Grŵp Seneddol Hollbleidiol ar Glefydau Fasgwlaidd a Gwythiennol.

Dywedodd Annie: "Nid yw pobl bob amser yn sylweddoli maint yr hyn yr ydyn ni'n ei wneud. Rydym yn gymuned fach ym maes gofal fasgwlaidd ledled y DU ond rydym yn gweithio'n anhygoel o galed i sicrhau bod ein cleifion yn cael eu gweld a'u cefnogi'n briodol. Mae cydnabyddiaeth yn bwysig am yr adnoddau a'r ddealltwriaeth sydd eu hangen ar ein cleifion.


"Byddaf yn y senedd ymhen cwpl o wythnosau eto yn codi ymwybyddiaeth gydag ASau. Rwy'n falch o'r gwaith rydyn ni'n ei wneud, a hyd yn oed yn fwy balch fy mod yn siarad dros y bobl sy'n dibynnu arnom bob dydd."

Dywedodd Helen Whyley, Cyfarwyddwr Gweithredol RCN Cymru: "Mae Annie yn fwy na nyrs eithriadol. Mae hi'n arweinydd cenedlaethol, mentor ac eiriolwr diflino i'w chleifion. Mae ei hymrwymiad i ragoriaeth, arloesi a gofal tosturiol yn cynrychioli'r gorau sydd gan ein proffesiwn i’w gynnig.  

"Mae angerdd Annie dros hyrwyddo nyrsio fasgwlaidd yn cynnwys cyfuno ei harbenigedd clinigol â dyngarwch er mwyn gwella canlyniadau i gleifion.   Mae hi wir yn ymgorffori calon, sgil ac ysbryd nyrsio."