Dydd Gwener 20 Medi 2024
Mae wedi bod yn daith anhygoel ers lansio ein Huned Treialon Clinigol 2 flynedd yn ôl, ac mae'n wych edrych yn ôl a gweld yr effaith! O wella perfformiad allweddol i wella profiadau cleifion, rydym wedi ymrwymo i gyflwyno'r safon orau o ymchwil. Eleni mae dros 80 o astudiaethau'n cael eu cynnal yn BIPAB gyda'n 400 o gyfranogwyr ac mae'r gwaith hwn yn hanfodol ar gyfer gofal iechyd yn y dyfodol.
Nid yw'r tîm yn stopio yma, maent yn canolbwyntio ar ehangu cyfleoedd ymchwil ar draws mwy o adrannau a gwreiddio ymchwil mewn llwybrau gofal dydd i ddydd. Ynghyd â’n partneriaid anhygoel, rydym yn gweithio i sicrhau bod ein safle yn adnabyddus am ddarparu ymchwil eithriadol sy’n canolbwyntio ar y claf ac sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.
Meddai David Bosanquet, Cyfarwyddwr Meddygol Cyswllt Ymchwil a Datblygu: “Yn y tîm Ymchwil a Datblygu mae casgliad gwych o unigolion deinamig sy’n frwd dros wella gofal cleifion trwy roi mynediad i gymaint o bobl â phosibl at ymchwil. Nod ein strategaeth yw gwreiddio ymchwil ym mhob maes o’r bwrdd iechyd, ac mae’r adran wedi gwneud cynnydd sylweddol yn hyn o beth dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae wedi bod yn wych gweld ein staff yn datblygu dros y cyfnod hwn ac yn mynd o nerth i nerth. Mae ymchwil i bawb. Mae ymchwil yn rhan o bob swydd gweithiwr gofal iechyd proffesiynol - os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud ymchwil mewn unrhyw ffordd, boed fawr neu fach, mae croeso i chi gysylltu â ni."
Disgrifiodd Rachel Doyle, claf ar Dreial LOCI yr adran, y tîm: “Roedden nhw yno wrth ein hochor”. Roedden nhw bob amser yn codi'r ffôn ac yn gweld sut oeddwn i ac yn siarad â mi am unrhyw beth yr oeddwn yn poeni amdano. Rwy’n meddwl bod y cymorth un i un a gefais ganddynt yn amhrisiadwy. Rwy'n gwerthfawrogi'n fawr yr holl gefnogaeth a'r help a'r cyswllt cyson i weld sut oeddwn i. Wyddoch chi, fe wnaeth wir olygu llawer trwy gydol y daith honno, felly diolch.”
Beth yw cam mawr nesaf y tîm? Lansio Rhaglen Hyrwyddwyr Ymchwil! Bydd y fenter gyffrous hon yn grymuso staff a gwirfoddolwyr i ddod yn lleisiau ar gyfer ymchwil, gan ei wneud yn fwy cynhwysol a hygyrch - yn enwedig i grwpiau nad ydynt yn cael eu cynrychioli’n ddigonol.
Cadwch lygad am yr hyn sydd nesaf wrth i ni barhau i wella ein hymchwil gofal iechyd.