Neidio i'r prif gynnwy

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn annog pobl gymwys i gael eu brechiad gwanwyn COVID-19

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn annog pobl gymwys yng Nghymru i gael eu brechiad gwanwyn COVID-19 am ddim i'w hamddiffyn rhag salwch difrifol.

Mae arbenigwyr iechyd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru yn atgoffa'r rhai sy'n gymwys nad salwch gaeaf yn unig yw COVID-19 ac nad yw wedi diflannu. Gall y feirws barhau i beri risg iechyd ddifrifol, yn enwedig i'r rhai sydd fwyaf mewn perygl fel oedolion hŷn a phobl â system imiwnedd wan.

Dangosodd data gan Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU (UKHSA) o raglen y gwanwyn diwethaf fod unigolion a gafodd frechlyn tua 45 y cant yn llai tebygol o gael eu derbyn i'r ysbyty gyda COVID-19 o bythefnos ar ôl y brechiad, o'u cymharu â'r rhai a arhosodd heb eu brechu.

Adroddodd Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) fod brechlynnau COVID-19 wedi achub mwy na 1.4 miliwn o fywydau yn Rhanbarth Ewropeaidd WHO ers cyflwyno'r brechlynnau ym mis Rhagfyr 2020.

Yn dilyn cyngor y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI), mae brechiad gwanwyn COVID-19 yn cael ei gynnig yng Nghymru i’r canlynol:

· Pobl sy’n 75 oed a hŷn

· Preswylwyr mewn cartrefi gofal i oedolion hŷn

· Unigolion 6 mis oed a hŷn sydd â system imiwnedd wan oherwydd cyflwr iechyd neu driniaeth feddygol

Dywedodd Dr Christopher Johnson, Pennaeth y Rhaglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Hyd yn oed os ydych chi wedi cael y brechlyn COVID-19 o'r blaen, mae straeniau o feirysau'n newid, a gall

amddiffyniad rhag brechlynnau leihau dros amser. Dyna pam ei bod hi'n bwysig i'r rhai sydd fwyaf mewn perygl ymestyn eu hamddiffyniad trwy gael y brechlyn diweddaraf sy'n cael ei gynnig.

“Mae’r siawns o fynd yn ddifrifol wael gyda COVID-19 lleihau’n fawr trwy frechu.

“Mae cael y brechlyn COVID-19 pan gaiff ei gynnig yn dal i fod yn un o’r ffyrdd gorau o amddiffyn eich hunain.”

Bydd rhaglen brechu gwanwyn COVID-19 ar gael tan ddiwedd mis Mehefin.

Mae'r rhai sy'n gymwys i gael y brechiad gwanwyn COVID-19 yn cael gwahoddiad gan eu byrddau iechyd lleol.

Dywedodd yr Athro Isabel Oliver, Prif Swyddog Meddygol Cymru:

"Mae COVID-19 yn dal i fod yn bresennol yn ein cymunedau ac yn parhau i beri risg iechyd yn enwedig i'r bobl fwyaf agored i niwed. Mae rhaglen frechu’r gwanwyn yn darparu amddiffyniad hanfodol, ac rwy’n annog yn gryf bawb sy’n gymwys i gael eu brechiad gwanwyn COVID-19 am ddim, sy’n un o’r ffyrdd mwyaf effeithiol o amddiffyn eich hun rhag salwch difrifol."

Nid yw'n rhy hwyr i gael eich brechiad gwanwyn COVID-19.

Am ragor o wybodaeth am sut i gael y brechlyn, ewch i Atgyfnerthwyr Covid-19 - Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan