Neidio i'r prif gynnwy

Prosiect Trafnidiaeth i Iechyd yn Dyfarnu Ei Grantiau Cyntaf

Dydd Iau 23 Medi 2021

Mae'r prosiect Trafnidiaeth i Iechyd wedi'i sefydlu i gefnogi trafnidiaeth gymunedol ar draws ardal y Bwrdd Iechyd (Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd, De Powys a Thorfaen) ac mae'n cael ei ariannu gan y Bwrdd Iechyd.

Mae'r prosiect wedi dyfarnu ei grantiau arian parod cyntaf i ddau ymgeisydd llwyddiannus. Gwnaeth Age Connects Cludiant Cymunedol Torfaen a Llanwrtyd Wells gais i wella eu gwasanaethau presennol i helpu teithwyr i fynychu safleoedd iechyd yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.

Mae Age Connects Torfaen yn elusen annibynnol ar gyfer pobl hŷn sy'n byw yn Nhorfaen a'r ardaloedd cyfagos. Maent wedi derbyn cyllid i gyflogi dau yrrwr rhan-amser ychwanegol i ddarparu gwasanaeth cludiant hyblyg ac ymatebol i unrhyw un dros 50 oed gyda'u gofalwr neu aelod o'r teulu sy'n dymuno cael mynediad i Ysbyty Athrofaol y Faenor neu safleoedd gofal iechyd eraill.

Gwnaeth Cludiant Cymunedol Llanwrtyd Wells gais am arian ar gyfer eu gwasanaeth Ceir Cymunedol i dalu costau cludo trigolion lleol sydd angen mynychu apwyntiadau arbenigol yn un o'n hysbytai.

Mae dros £11,000 wedi'i roi i helpu preswylwyr yn Nhorfaen a Phowys i gael cludiant i apwyntiadau iechyd hanfodol.

“Mae’n wych fy mod wedi dyfarnu’r grantiau cyntaf hyn,” meddai Faye Mear, Cydlynydd Trafnidiaeth Cymunedol Ranbarthol yn GAVO, sy’n rheoli’r prosiect. “Rydym yn gyffrous i weld yr effaith y mae’r ddwy fenter hon yn ei chael i helpu preswylwyr yn Nhorfaen a Phowys i gyrraedd eu hapwyntiadau iechyd dros y misoedd nesaf.

“Mae trafnidiaeth gymunedol yn achubiaeth i lawer o bobl nad oes ganddynt eu car eu hunain ac na allant gael mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus. Mae'r ddwy wobr hon yn ddechrau gwych i'r prosiect, ac rydym yn chwilio am fwy o sefydliadau i gymryd rhan.”

Mae'r prosiect Trafnidaeth i Iechyd wedi'i sefydlu i gefnogi trafnidiaeth gymunedol ar draws ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Mae'r prosiect yn gwahodd ceisiadau grant am hyd at £10,000 gan grwpiau neu sefydliadau sydd â diddordeb i dyfu neu ddatblygu mentrau trafnidiaeth dielw yn benodol i helpu pobl yn eu cymuned i gyrraedd apwyntiadau iechyd neu i ymweld ag anwyliaid yn yr ysbyty. Gellir defnyddio'r cyllid i wella'r gwasanaethau trafnidiaeth presennol, datblygu cynlluniau newydd neu annog partneriaethau newydd. I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect ac i gael mynediad i'r pecyn cais am grant, ewch i: https://www.gavo.org.uk/t2hgrant