Y mis hwn, rydym yn cymryd rhan mewn Mai'n Amser Symud am y drydedd flwyddyn drwy geisio rhoi’r gorau i ddadgyflyru ac annog ein cleifion i godi, gwisgo a pharhau i symud cymaint ag y gallant yn ystod eu hamser yn yr ysbyty gyda ni (os yw’n briodol i wneud hynny).
Pan fydd cleifion yn treulio cyfnodau hir yn y gwely tra byddant yn yr ysbyty, mae'n eu rhoi mewn perygl o fynd yn wannach a cholli cryfder yn gyflym, a elwir yn ddadgyflyru. Gall dadgyflyru cyhyrol gael effaith andwyol ar iechyd, lles, symudedd, annibyniaeth a chysur ein cleifion, gan fod po hiraf y bydd claf yn aros yn yr ysbyty, y mwyaf fydd effaith y dadgyflyru a'r anoddaf yw hi i'r claf ddychwelyd adref neu osgoi cael ei dderbyn eto i'r ysbyty.
Gall unrhyw un sy'n dod i gysylltiad â chleifion ar wardiau chwarae rhan wrth eu helpu a'u hannog i godi, gwisgo a symud cymaint ag y gallant - mae hyn yn cynnwys unrhyw aelod o staff, yn ogystal ag ymwelwyr claf. Y tro nesaf y byddwch chi'n ymweld ag anwylyd yn yr ysbyty, gallai sicrhau eu bod nhw'n codi, yn gwisgo, ac yn symud cymaint ag y gallant wneud gwahaniaeth enfawr i'w harhosiad yn yr ysbyty.
Drwy gydol y mis, byddwn yn arddangos yr holl weithgareddau, digwyddiadau a mentrau sy'n digwydd ar draws ein hysbytai i helpu i atal dadgyflyru a chael cleifion i wisgo, codi o'r gwely a symud cymaint â phosibl!