Neidio i'r prif gynnwy

Mai'n Amser Symud - Nid Dim Ond Heddiw, Bob Dydd!

Dydd Gwener 1af Mai 2026

Y mis hwn, rydym yn cymryd rhan mewn Mai'n Amser Symud  drwy geisio rhoi’r gorau i ddadgyflyru ac annog ein cleifion i godigwisgo a pharhau i symud cymaint ag y gallant yn ystod eu hamser yn yr ysbyty gyda ni (os yw’n briodol i wneud hynny).

Pan fydd cleifion yn treulio cyfnodau hir yn y gwely tra byddant yn yr ysbyty, mae'n eu rhoi mewn perygl o fynd yn wannach a cholli cryfder yn gyflym, a elwir yn ddadgyflyru. Gall dadgyflyru cyhyrol gael effaith andwyol ar iechyd, lles, symudedd, annibyniaeth a chysur ein cleifion, gan fod po hiraf y bydd claf yn aros yn yr ysbyty, y mwyaf fydd effaith y dadgyflyru a'r anoddaf yw hi i'r claf ddychwelyd adref neu osgoi cael ei dderbyn eto i'r ysbyty.

Gall unrhyw un sy'n dod i gysylltiad â chleifion ar wardiau chwarae rhan wrth eu helpu a'u hannog i godi, gwisgo a symud cymaint ag y gallant - mae hyn yn cynnwys unrhyw aelod o staff, yn ogystal ag ymwelwyr claf. Y tro nesaf y byddwch chi'n ymweld ag anwylyd yn yr ysbyty, gallai sicrhau eu bod nhw'n codi, yn gwisgo, ac yn symud cymaint ag y gallant wneud gwahaniaeth enfawr i'w harhosiad yn yr ysbyty.

Drwy gydol y mis, byddwn yn arddangos yr holl weithgareddau, digwyddiadau a mentrau sy'n digwydd ar draws ein hysbytai i helpu i atal dadgyflyru a chael cleifion i wisgo, codi o'r gwely a symud cymaint â phosibl!


Eich 1000 Diwrnod Olaf

Cymerwch olwg ar y fideo pwerus hwn, a ddatblygwyd gan Health Service 360.

Dydych chi byth yn gwybod pryd y bydd eich 1000 diwrnod olaf yn dechrau. Ond pan fydd yn dechrau, a fyddech chi eisiau ei dreulio'n sownd mewn gwely ysbyty, neu'n treulio eich amser gwerthfawr gyda'r bobl rydych chi'n eu caru?