Neidio i'r prif gynnwy

Mainc Goffa wedi'i gosod y tu allan i ICU yn Ysbyty Athrofaol y Faenor

Dydd Mawrth 30 Mawrth 2021

Y llynedd, casglodd staff Gofal Critigol o ardraws ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan arian rhyngddynt i gael y fainc hardd hon wedi'i dylunio a'i chynhyrchu, er cof am y rhai a gollodd eu bywydau yn y pandemig.

Mae'r fainc bellach wedi'i chynhyrchu gan ddyn dalentog iawn, Chris Wood, a roddodd ei amser i'r prosiect. Caiff y phlac ei roi gan aelod caredif o'r cyhoedd.

Mae bellach yn eistedd yn yr ardal bicnic y tu allan i'r adran Gofal Critigol yn Ysbyty Athrofaol Y Faenor, ac yn cynnig y lle perffaith i eistedd, edrych mas ar y cefn gwlad a chymryd eiliad o fyfyrio. Nid yw'r fainc wedi'i bwriadu ar gyfer staff yn unig- mae croeso i gleifion ac ymwelwyr ei defnyddio hefyd.

Diolch i bawb a rhoddod rhyw fath o gyfraniad at y fainc goffa hardd hon.

Yn y llun: Chris Wood, a ddyluniodd a chreodd y fainc

 

 

 

Yn y llun: Nyrsys yr Uned Gofal Critigol yn Ysbyty Athrofaol Y Faenor

Yn y llun: Y fainc goffa a'i phlac, a roddwyd gan aelod o'r cyhoedd