Yn ddiweddar, gwahoddwyd Dr Manmeet Kaur, Meddyg Teulu yng Nghanolfan Iechyd Pengam yng Nghaerffili, yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, sydd hefyd yn Arweinydd Iechyd a Lles ar gyfer Cwmni Buddiant Cymunedol (CIC) Thriving Communities, i fynychu derbyniad Dydd Gŵyl Dewi arbennig yn 10 Downing Street.
Yn ogystal â gweithio fel Meddyg Teulu, mae Dr Kaur yn hyfforddwraig ioga, ymwybyddiaeth ofalgar, anadlu a myfyrio, ac mae'n arwain sesiynau a gweithdai am ddim yn y gymuned leol, sy’n ymwneud â grym yr anadl a'r meddwl i dawelu'r system nerfol, lleihau straen ac adfer cydbwysedd yn eich bywyd.
Cafodd Dr Kaur ei henwebu gan Swyddfa Cymru i ymuno â grŵp o westeion o bob cwr o Gymru a oedd wedi’u cydnabod am eu cyfraniadau i ddiwylliant Cymru, lles cymunedol, a gwasanaeth cyhoeddus.
Wrth fyfyrio ar yr anrhydedd, dywedodd Dr Kaur:
Roeddwn yn teimlo mai braint wirioneddol oedd mynychu a chynrychioli Cymru... Roedd yn foment falch, wrth i mi gysylltu â phobl sy’n ysbrydol o bob cwr o'r wlad. Roedd yn teimlo fel breuddwyd nad oeddwn hyd yn oed wedi breuddwydio a fyddai’n dod yn realiti.
Mynegodd Dr Kaur hefyd ei diolchgarwch i holl wirfoddolwyr a phartneriaid Thriving Communities, gan gynnwys Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan., am eu cefnogaeth barhaus wrth gyflwyno mentrau lles cymunedol ar draws y rhanbarth.
Mae'r gydnabyddiaeth hon yn amlygu'r gwaith rhagorol a'r effaith gadarnhaol y mae cydweithwyr o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn parhau i'w chael ledled Cymru.