Fel rhan o’n hymrwymiad i ddarparu gofal personol a rhagweithiol, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn gwahodd cleifion i gymryd rhan mewn Rhaglen Asesiad o Iechyd Ar-lein newydd.
Mae’r fenter ddigidol hon wedi’i chynllunio i’n helpu i ddeall ac ymateb yn well i’ch anghenion gofal unigol. Bydd cleifion cymwys yn derbyn gwahoddiad i gwblhau asesiad o iechyd byr ar-lein, a bydd hyn yn cefnogi ein timau clinigol i deilwra gofal yn fwy effeithiol.
I gael rhagor o wybodaeth am y cyfathrebiad digidol hwn, ac i weld ein hysbysiadau preifatrwydd, ewch i wefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan: Mesur Canlyniad a Adroddir gan Gleifion (PROM) - Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan