Cynhaliwyd mwy na 25,000 o lawdriniaethau cataract llwyddiannus ledled De-ddwyrain Cymru mewn dim ond deuddeg mis, gan wella gofal y claf a thynnu bron i 10,000 claf o’r rhestr aros.
Mae'r llawdriniaeth ddydd, sy'n cael ei gwblhau fel arfer o fewn awr, yn cynnwys disodli lens llygaid naturiol cymylog gydag un clir, artiffisial. Gyda galw eithriadol am driniaeth cataract yn gyffredin ardraws yr ardal, daeth timau o Fyrddau Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Caerdydd a'r Fro, a Chwm Taf Morgannwg at ei gilydd yn 2023 fel rhan o’r Rhaglen Offthalmoleg Ranbarthol i adolygu sut i gyfuno adnoddau a chynyddu faint o lawdriniaethau cataract a gynhelir.
Yn dilyn cyfnod ymgysylltu â'r cyhoedd o 12 wythnos i holi barn glaf ar y cynlluniau arfaethedig, datblygodd y rhaglen ddau 'hwb' cataract rhanbarthol i ddarparu capasiti clinigol ychwanegol – un yng ngogledd y dalgylch yn Ysbyty Nevill Hall yn y Fenni, ac un arall yn y De yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd.
Ochr yn ochr â gweithgarwch yr hybiau, cefnogwyd y rhaglen gan £19.5 miliwn ychwanegol o gyllid Llywodraeth Cymru ym mis Ebrill 2025 i fynd i'r afael ymhellach â rhestrau aros cataract trwy gontractio allanol i ddarparwyr annibynnol ledled Cymru a Lloegr. Gyda tharged uchelgeisiol o gontractio 12,930 o driniaethau cataract yn allanol rhwng Ebrill 2025 a Mawrth 2026, llwyddodd y rhaglen nid yn unig i gyrraedd ond i ragori ar ei tharged; gan ddarparu 12,976 o lawdriniaethau adfer golwg ar draws rhwydwaith o bum darparwr arbenigol.
Arweiniodd y gweithgaredd ychwanegol hwn, o'i gyfuno â'r driniaeth cataract presennol a berfformiwyd ar draws pob un o'r tri Bwrdd Iechyd a'r ddau ganolfan rhanbarthol, at gyfanswm o 25,633 o lawdriniaethau rhwng Ebrill 2025 a Mawrth 2026 (gyda chyfran o gleifion yn derbyn triniaeth yn y ddwy lygad).
Mae effaith y gwaith hwn wedi bod yn sylweddol wrth helpu i gyflymu amseroedd aros cleifion a lleihau'r rhestr aros cataractau o fwy na 9,600 o bobl.
Dywedodd Rhianon Reynolds, Arweinydd Clinigol Rhanbarthol y Rhaglen ac Arweinydd Clinigol Cenedlaethol ar gyfer Offthalmoleg:
"Mae ein timau wedi gweithio'n galed iawn i gyflawni'r rhaglen uchelgeisiol hon. Er gwaethaf graddfa a chyflymder y dasg, a oedd yn cyfateb i ddwy flynedd o weithgaredd arferol wedi'i gywasgu i mewn i ddeuddeg mis, gwnaethom sicrhau bod y rhaglen yn cynnal goruchwyliaeth glinigol gref a gofal sy'n canolbwyntio ar y claf trwy gydol y cyfnod hwn. Rydym yn falch iawn o fod wedi derbyn adborth cadarnhaol cyson ar gyfer yr hybiau rhanbarthol a'n partneriaid allanol."
Dywedodd Hannah Evans, Cyfarwyddwr Gweithredol Strategaeth, Cynllunio a Phartneriaethau ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan:
"Mae'r gwaith hwn yn ceisio gwella tegwch mynediad at lawdriniaeth cataract ar draws y Byrddau Iechyd a darparu gofal amserol, diogel ac o ansawdd uchel. Rwy'n falch iawn o weld yr effaith sylweddol ar amseroedd aros a phrofiadau cleifion a hoffwn ddiolch i'n cydweithwyr yn y Bwrdd Iechyd a'n partneriaid allanol am eu hymroddiad a'u cefnogaeth wrth gyflawni'r rhaglen hon."
"Er bod y galw am lawdriniaeth cataract ar draws y rhanbarth yn parhau i fod yn uchel, mae'r rhaglen ranbarthol wedi gwneud cynnydd mawr wrth wella mynediad at lawdriniaeth cataract a chreu system gryfach, fwy gwydn ar gyfer y dyfodol."
Diolch i'r darparwyr annibynnol sydd wedi'u contractio trwy'r prosiect hwn: