Neidio i'r prif gynnwy

Mis Ymwybyddiaeth o Ganser y Fron: Annogir Preswylwyr Gwent i Weithredu

Wrth i Fis Ymwybyddiaeth o Ganser y Fron ddechrau, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn annog pobl ledled Gwent i gymryd camau syml ond hanfodol i amddiffyn eu hunain: gwirio eu bronnau'n rheolaidd, adnabod arwyddion cynnar canser, a mynychu apwyntiadau sgrinio.

Bob blwyddyn yng Ngwent, mae mwy na 5,000 o bobl yn cael eu hatgyfeirio i'r Uned Fron yn Ysbyty Ystrad Fawr, ac mae tua 556 yn cael diagnosis o ganser y fron. Po gynharaf y canfyddir y canser, y gorau yw'r siawns o driniaeth ac adferiad llwyddiannus.

“Mae eich iechyd yn bwysig i ni,” meddai Louise Davidson, Nyrs Arbenigol y Fron Arweiniol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. “Y mis Hydref hwn, rydym yn gofyn i bawb gymryd eiliad iddyn nhw eu hunain. Gwyddom ba mor brysur y gall bywyd fod, ond mae gofalu am eich lles eich hun yn hanfodol. Mae gwneud archwiliadau bronnau yn rhan o'ch trefn arferol yn weithred fach o hunanofal a all wneud gwahaniaeth mawr.”

 

Gwybod beth sy'n arferol i chi

“Cymerwch ychydig funudau’n rheolaidd i wirio’ch bronnau. Rydych chi’n chwilio am unrhyw beth sy’n teimlo’n anarferol i chi – newid mewn siâp, maint, neu groen, lwmp, poen nad yw’n diflannu, neu unrhyw newidiadau i’ch tethau. Nid canser yw achos rhan fwyaf o newidiadau, ond os yw rhywbeth yn teimlo’n wahanol, siaradwch â’ch meddyg teulu.” Meddai Louise.

 

Mamogramau: cam syml gydag effaith fawr

Os ydych chi rhwng 50 a 70 oed, byddwch chi'n cael gwahoddiad i gael mamogram bob tair blynedd. Mae'n gyflym, yn ddiogel, a gall ddod o hyd i ganserau ymhell cyn y gellir eu gweld neu eu teimlo. Gallai mynychu'ch apwyntiad achub eich bywyd mewn gwirionedd. Os ydych chi wedi methu un, nid yw byth yn rhy hwyr i ddal i fyny – cysylltwch â'r tîm Sgrinio'r Fron yn south-breast-screening@wales.nhs.uk neu drwy ffonio 029 2039 7222. Mae'n bwysig nad ydych chi'n aros am dair blynedd nes i chi gael gwahoddiad eto.

 

“Gall gweithredu’n gynnar achub bywydau.”

Ym mis Hydref eleni, mae'r Bwrdd Iechyd yn gofyn i bobl ledled Gwent gymryd amser iddyn nhw eu hunain:

Gwirio. Mynychu. Amddiffyn.

Am ragor o wybodaeth am ymwybyddiaeth o ganser y fron, sgrinio a gwasanaethau cymorth, ewch i'n tudalen Gwasanaethau'r Fron.