Yn mynd i'r brifysgol yr hydref hwn? Peidiwch â cholli eich brechiad MenB

Wrth i chi baratoi ar gyfer bywyd prifysgol, mae un eitem bwysig i'w hychwanegu at eich rhestr wirio: cael eich amddiffyn yn llawn rhag MenB.

Wrth ichi baratoi ar gyfer bywyd prifysgol, mae un peth pwysig i'w ychwanegu at eich rhestr wirio: sicrhau eich bod wedi'ch diogelu'n llawn rhag MenB.

Mae'r brechlyn MenB yn helpu i amddiffyn rhag clefyd meningococol grŵp B, a all achosi salwch difrifol gan gynnwys llid yr ymennydd a septisemia.

Os ydych eisoes wedi cael eich brechiad MenB cyntaf, mae'n hanfodol eich bod yn mynychu eich ail apwyntiad. Mae angen dau ddos o'r brechlyn er mwyn sicrhau'r amddiffyniad gorau posibl.

Hoffem hefyd atgoffa myfyrwyr fod y cynnig brechu MenB ar gael am gyfnod cyfyngedig yn unig, felly mae'n bwysig manteisio ar y cyfle tra byddwch yn dal yn gymwys.

Gyda llawer o bobl ifanc ar fin dechrau byw, astudio a chymdeithasu gyda grwpiau newydd o bobl, dyma'r amser delfrydol i sicrhau bod gennych yr amddiffyniad sydd ei angen arnoch.

Dysgwch ragor am raglen frechu MenB a gwiriwch eich cymhwystra yma: Rhaglen Brechu Meningococcal B (MenB) - Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan