Yn anffodus, mae Practis Meddygol Llyswerry yng Nghasnewydd wedi profi gollyngiad dŵr sylweddol dros nos, sydd wedi effeithio ar eu cyflenwad pŵer a mynediad i rai o’r adeilad.
O ganlyniad, mae'r practis yn cyfyngu apwyntiadau i ofal brys a hanfodol ar gyfer heddiw. Peidiwch â mynychu'r practis heb gysylltu â nhw dros y ffôn yn gyntaf.
Mae peirianwyr wedi cael eu galw a byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf ichi. Mae'r practis yn diolch i chi am eich amynedd ar yr adeg hon.