O 6pm heno (Dydd Mawrth 8fed o Fedi 2020), bydd ardal Cyngor Bwrdeistref Sir Gaerffili yn dod yn Ardal Amddiffyn Iechyd Leol Estynedig a daw sawl cyfyngiad clo newydd i rym.
Y rheoliadau hyn yw'r cyntaf a wnaed gan Lywodraeth Cymru wrth ymateb i'r bygythiad difrifol a achosir gan bigyn yn ledaeniad COVID-19.
Mae hwn yn alwad i ddeffro Gwent i gyd.
Rydym yn ymwybodol bod cydymffurfio â'r rheolau sylfaenol wedi ymlacio ar draws Gwent ac mae'r hyn a ddechreuodd fel cynnydd mewn achosion ymhlith pobl iau bellach yn lledaenu i bobl hŷn. Mae COVID-19 yn firws marwol, felly cymerwch gyfrifoldeb am eich gweithredoedd a dilynwch y rheolau.
Mae hyn yn syml mewn gwirionedd.
Os oes gennych unrhyw symptomau Coronafeirws, rhaid i chi gael prawf a rhaid i'ch cartref cyfan hunan-ynysu ar unwaith.
Os gofynnir i chi hunanynysu, dylech wneud hynny i atal y firws rhag lledaenu ymhellach.
Am wybodaeth a fydd yn ateb llawer o gwestiynau, ewch i wefan Llywodraeth Cymru.