30 Medi 2024
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn gweithio i leihau’r effaith ariannol ac amgylcheddol sy’n cael eu hachosi wrth wisgo menig nad ydynt yn rhai di-haint heb fod angen.
Fel rhan o’r ymgyrch Menig i Ffwrdd (Gloves R Off), mae grŵp Datgarboneiddio’r Bwrdd Iechyd yn annog lleihau faint o fenig nad ydynt yn rhai di-haint sy'n cael eu defnyddio ar draws safleoedd gofal iechyd yng Ngwent. Dylai hyn arwain at weld gostyngiad yng ngwariant ac ôl troed carbon y Bwrdd Iechyd.
Er bod menig nad ydynt yn rhai di-haint yn offer canolog wrth reoli heintiau ac yn cael eu defnyddio mewn safleoedd gofal iechyd ar gyfer llawer o wahanol dasgau sy'n ymwneud â gofal, nid ydynt bob amser yn angenrheidiol. Tra bod defnyddio menig yn anochel mewn rhai achosion, megis wrth ddod i gysylltiad ȃ hylifau corfforol a pheryglon clinigol; nid oes angen gwisgo menig wrth fynd i’r afael ȃ thasgau fel bwydo cleifion, defnyddio cyfrifiadur, gwirio pwysedd gwaed, neu wrth roi meddyginiaeth drwy'r geg, bydd y dechneg o olchi dwylo’n dda yn bodloni’r angen. Mae’r ymgyrch Menig i Ffwrdd yn herio staff i asesu risgiau rheoli haint fesul achos yn hytrach na gwisgo menig heb fod angen ym mhob sefyllfa glinigol.
Yn 2023, gwariodd y Bwrdd Iechyd bron i filiwn ar fwy na 21 miliwn o fenig nad oeddent yn rhai di-haint - sy’n cyfateb i dros 570 tunnell C02eq o allyriadau. Cyn pandemig Covid-19, roedd defnydd y Bwrdd Iechyd o fenig nad oeddent yn rhai di-haint yn agos at hanner y ffigurau a adroddwyd yn 2023. Felly nod yr ymgyrch newydd yw dychwelyd defnydd y Bwrdd Iechyd o fenig i’r un lefel ȃ chyn y pandemig.
Gweithredwyd yr ymgyrch Menyg i Ffwrdd am y tro cyntaf yn Ysbyty Great Ormond Street, lle gwelwyd y sefydliad yn arbed 21 tunnell o blastig o ganlyniad i leihau defnyddio gwisgo menig, yn ogystal â gwelliant mewn hylendid dwylo staff. Roedd Alison Stevens, Nyrs Arweiniol ar gyfer Gofal Iechyd Cynaliadwy a Rheolwr Technegol yn yr Uned Gofal Dwys (ICU) ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, yn gweld hon fel ymgyrch a allai arbed costau ac allyriadau ac roedd yn gyflym i’w rhoi ar waith yn yr Uned Gofal Dwys lle mae’n gweithio fel Prif Nyrs a Rheolwr Technegol yn gofalu am offer ac eitemau caffael. Mae’r adran hon yn unig yn gwario mwy na £50,000 ar dros 375,000 o fenig y flwyddyn ac maent yn awyddus i leihau eu defnydd o fenig cymaint ȃ phosibl.
Dywedodd Alison: “Pan ddechreuodd COVID-19, ac oherwydd y diarwybod mawr, roeddem eisiau aros yn ddiogel fel ein bod yn gallu diogelu ein cleifion. Ond nawr, mae’n ymwneud ȃ rhoi’r gefnogaeth a’r hyder i’n cydweithwyr i beidio ȃ gwisgo menig pan nad oes angen.
“Nid oes gan y GIG lyfr siec agored, ac nid yw’n saffach gwisgo menig na defnyddio technegau golchi dwylo da mewn llawer o sefyllfaoedd.”
Gyda llwyddiant y prosiect yn Ysbyty Athrofaol y Faenor, ers hynny mae wedi ehangu ar gyfer treialon mewn theatrau yn Ysbyty Brenhinol Gwent ac Ysbyty Ystrad Fawr. Nododd Amber-Joy, Prif Nyrs Adfer yn adran Theatrau Ysbyty Brenhinol Gwent, botensial ei hadran ar gyfer arbed.
Dywedodd Amber-Joy: “Yn aml iawn rydym yn mynd i roi menig ymlaen yn hytrach na chwestiynu, ‘Oes angen i mi wisgo menig ar gyfer y dasg hon?’ Nid ni sy'n dweud bod yn rhaid i ni roi'r gorau i ddefnyddio menig; mae'n ymwneud â meddwl yn fwy priodol pryd rydym yn eu defnyddio neu beidio."
Mae’r prif theatrau’n unig yn gwario dros £280,000 ar 2.4 miliwn o fenig fesul blwyddyn, ond gyda'r ymgyrch newydd galonogol hon, y gobaith yw gweld lleihad yn eu defnydd yn y dyfodol.
Dywedodd Jennifer Winslade, Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio i'r Bwrdd Iechyd: “Mae’r Bwrdd Iechyd yn ymdrechu i godi ymwybyddiaeth o’r defnydd cywir o fenig a hyrwyddo mai dim ond pan fo angen y cânt eu gwisgo. Yn y dyfodol, rydym yn gobeithio gweld llai yn defnyddio menig heb fod angen ac rwy’n teimlo’n gadarnhaol mai ein hunig ffordd ymlaen yw trwy ofal iechyd cynaliadwy, ac mae prosiectau fel hyn yn chwarae rhan allweddol.”
Mae’r Bwrdd Iechyd yn gobeithio adeiladu ar lwyddiant yr arbedion hyn i wella’r defnydd priodol o fenig yn fwy ar draws y GIG yng Ngwent.