Bydd y mesur dros dro hwn yn weithredol o ddydd Llun 8 Medi 2025 a bydd yn ein helpu i flaenoriaethu’r rhai sydd â’r anghenion clinigol mwyaf dybryd.
Beth mae hyn yn ei olygu i chi:
Ni dderbynnir atgyfeiriadau neu ymholiadau newydd am gymorth rheoli pwysau nad yw'n frys tan hysbysiad pellach.
Os ydych eisoes yn derbyn cymorth gan y gwasanaeth, ni fydd effaith ar eich gofal.
Os ydych eisoes wedi cael eich derbyn ar y rhestr aros Rheoli Pwysau Oedolion, byddwch yn dal i gael cynnig cymorth, ond byddwn mewn cysylltiad i ailasesu eich sefyllfa a sicrhau bod unrhyw achosion brys yn cael eu hail flaenoriaethu (cysylltir â chi'n uniongyrchol cyn diwedd mis Medi 2025).
Ni effeithir ar wasanaethau Plant a Mamolaeth.
Byddwn yn parhau i adolygu'r sefyllfa'n rheolaidd a byddwn yn diweddaru ein gwefan cyn gynted ag y gall gwasanaethau ailddechrau.
Rydym yn deall bod rheoli eich iechyd yn bwysig, ac rydym wedi ymrwymo i'ch cefnogi. Yn y cyfamser, rydym yn eich annog i archwilio'r opsiynau sydd ar gael i chi trwy ein gwefan (https://bipab.gig.cymru/ysbytai/a-y-o-wasanaethau/gwasanaeth-rheoli-pwysau/) mae'r rhain yn cynnwys;
GRO Health - gwasanaeth rheoli pwysau digidol, y gallwch ei gyrchu am ddim fel claf sy'n byw yn ardal BIPAB
Adnoddau hunan-dywys i gefnogi rheoli pwysau
Mentrau sy'n rhedeg ar draws yr awdurdodau lleol sy'n cefnogi rheoli pwysau a gweithgaredd