Neidio i'r prif gynnwy

Newidiadau i Wasanaethau Adran Achosion Brys

Efallai eich bod wedi sylwi bod ein Hadrannau Achosion Brys yn brysur iawn unwaith eto. Maent yn edrych hyd yn oed yn fwy prysur nag arfer wrth i ni geisio cydymffurfio â mesurau Ymbellhau Cymdeithasol ar draws ein safleoedd.

Er mwyn cefnogi cleifion sy'n cael eu gweld mewn modd amserol, rydym yn defnyddio ein holl wasanaethau brys i gefnogi'r rhai mwyaf anghenus. O ganlyniad, efallai y bydd adegau dros yr wythnosau nesaf, waeth ble rydych chi'n byw yng Ngwent, ein bod ni'n gofyn i chi (neu'ch Meddyg Teulu wrth iddyn nhw eich cyfeirio chi) fynd i Ysbyty nad yw'r agosaf atoch chi o bosib. Y rheswm am hyn yw y bydd gan rai ysbytai amseroedd aros byrrach a byddant yn gallu eich gweld yn gynt a chynnal Ymbellhau Cymdeithasol.

Byddwn wrth gwrs yn ymwybodol o allu cleifion i deithio a byddwn yn ceisio cefnogi hyn lle bo hynny'n bosibl.

Rydym am sicrhau bod pob claf yn cael ei weld yn y ffordd fwyaf diogel gan y person mwyaf priodol yn y ffordd fwyaf amserol bosibl, wrth i ni barhau i ymateb i'r Pandemig. Trefniant dros dro yw hwn a byddwn yn parhau i adolygu hyn yn gyson. Rydym yn ddiolchgar am eich cefnogaeth barhaus.