Neidio i'r prif gynnwy

Newidiadau i'r amserlen imiwneiddio reolaidd i blant yn 2026

I'r rhan fwyaf o blant, mae brech yr ieir yn salwch ysgafn sy'n gwella ar ei ben ei hun, ond i rai, gall fod yn ddifrifol iawn. Mae'r risg o salwch difrifol o ganlyniad i frech yr ieir yn llawer uwch nag yr oedd pobl yn arfer ei feddwl. Efallai y bydd angen trin rhai pobl yn yr ysbyty os cânt broblemau oherwydd yr haint. 

Yn ôl Sefydliad Iechyd y Byd (WHO), mae brech yr ieir yn arwain at dros 4 miliwn o arosiadau yn yr ysbyty a mwy na 4,000 o farwolaethau ledled y byd bob blwyddyn. 

O 1 Ionawr 2026 ymlaen, mae Cymru yn cyflwyno'r brechlyn rhag brech yr ieir i'r amserlen imiwneiddio reolaidd i blant. Mae hyn er mwyn helpu i atal salwch difrifol ac achub bywydau. Gwnaed y penderfyniad ar ôl cyngor gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI), sy'n cynghori llywodraeth y DU. Mae'r argymhelliad yn seiliedig ar lwyddiant rhaglenni brechu rhag brech yr ieir mewn gwledydd eraill. 

Brechlyn cyfun yw'r brechlyn rhag brech yr ieir, sy'n helpu i amddiffyn rhag y frech goch, clwy'r pennau, rwbela, a varicella (brech yr ieir). Ei enw yw’r brechlyn MMRV. O fis Ionawr 2026 ymlaen, mae MMRV yn disodli'r brechlyn MMR yn yr amserlen imiwneiddio reolaidd i blant yng Nghymru.  Mae'r brechlyn MMR yn dal i fod ar gael i rai pobl y mae ei angen arnynt. Mae hyn yn cynnwys plant hŷn ac oedolion nad ydynt wedi cael dau ddos ac nad ydynt yn gymwys i gael y brechlyn MMRV. 

Am ragor o wybodaeth am y rhesymau dros y newid, ewch i: Newidiadau i'r amserlen imiwneiddio reolaidd i blant - Iechyd Cyhoeddus Cymru