Neidio i'r prif gynnwy

Newyddion o Gyfarfod y Bwrdd heddiw

Yng Nghyfarfod y Bwrdd heddiw (Dydd Mawrth 30ain Mehefin 2020), cefnogodd yr aelodau gynnig i agor Ysbyty Athrofaol y Faenor yn gynnar ar gyfer Tachwedd 2020, fel rhan o'n proses cynllunio gweithredol a pharatoadau Gaeaf yn ystod pandemig COVID-19.
 
Bydd y cynnig hwn nawr yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru i'w ystyried a'i gymeradwyo'n derfynol.
 
Cymeradwyodd y Bwrdd achos busnes amlinellol hefyd i gefnogi adeiladu Uned y Fron Unedig newydd yn Ysbyty Ystrad Fawr. Byddai'r uned newydd arfaethedig yn darparu gwasanaethau diagnostig a thriniaeth o ansawdd uchel i drigolion Gwent. Byddai'n dod ag ystod o wasanaethau a ddarperir ar hyn o bryd ar draws tri safle Ysbyty.
 
Bydd yr achos busnes hwn nawr yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru i'w hystyried am arian gan Raglen Gyfalaf Cymru Gyfan.
 
Gallwch weld Ffrydio'r Cyfarfod ar ein Cyfrif Youtube.