Rydym yn falch iawn o rannu adborth gwych a dderbyniwyd gan y claf Keith Board, a gafodd ofal yn ddiweddar yn Ysbyty Athrofaol Y Faenor.
Cafodd Keith ei dderbyn i'r ysbyty mewn ambiwlans ar ôl profi poenau difrifol yn y frest, a derbyniodd ofal gan dimau yn yr Uned Achosion Difrifol a Ward Cardiaidd A2. Yn ystod ei arhosiad, cafodd nifer o brofion, gan gynnwys ECGau, monitro'r galon, ecocardiogram a phrawf melin draed, cyn cael ei ryddhau'n ddiogel adref.
Wrth fyfyrio ar ei brofiad, dywedodd Keith:
"Ni allwn weld dim o’i le ar y gofal a'r sylw a gefais gan y staff o'r eiliad y cyrhaeddais Y Faenor hyd at y funud y cefais fy rhyddhau. Mae pob aelod o staff y deuthum i gysylltiad ag ef yn haeddu diolch am y ffordd gyfeillgar, ofalgar a phroffesiynol yr aethant ati i wneud eu gwaith. Roedd yn gwbl ragorol."
Canmolodd Keith hefyd y nifer fawr o staff a fu'n rhan o'i ofal, gan gydnabod nid yn unig y timau clinigol ond pawb a chwaraeodd ran yn ei daith drwy'r ysbyty.
Hoffem ddiolch i Keith am gymryd yr amser i rannu ei brofiad, ac rydym yn falch o drosglwyddo ei eiriau caredig i gydweithwyr yn yr Adran Achosion Brys, y Gwasanaethau Cardiaidd a phawb a gyfrannodd at ei ofal.
Mae straeon fel hyn yn ein hatgoffa o'r gwahaniaeth y mae ein timau yn ei wneud bob dydd.
💙 Diolch i'r holl staff dan sylw am fyw ein gwerthoedd a darparu gofal tosturiol o'r safon uchaf.