Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn gweithio mewn partneriaeth gyda Diabetes UK a parkrun ar gyfer digwyddiad ymwybyddiaeth diabetes yn parkrun Penallta ddydd Sadwrn 21 Mehefin. Ar agor i holl drigolion Gwent, boed yn rhedeg, yn cerdded neu'n loncian - mae croeso i bawb. Daw’r digwyddiad parkrun ychydig ar ôl diwedd Wythnos Diabetes sy'n flaenoriaeth allweddol i'r Bwrdd Iechyd.
Ar flaen y gad mae Donna, Dietegydd sydd â Diabetes Math 1 sydd wedi dechrau ei thaith ffitrwydd yn ddiweddar, a Karen , Nyrs Anadlol a mam-gu 62 oed.
Donna yw Rheolwr Deieteg Gymunedol y Bwrdd Iechyd ac mae ganddi Ddiabetes Math 1 hefyd. Mae Donna wedi bod eisiau dod yn fwy heini ers i'w merch ddechrau rhedeg parkrun Penallta. Uchelgais Donna yw gwneud parkrun fel teulu.
“Roeddwn i ychydig yn nerfus yn dechrau rhedeg ar ôl dros 10 mlynedd o beidio â rhedeg. Rydw i wedi mwynhau defnyddio'r dull couch to 5k ac wedi sylwi'n fawr sut mae fy ffitrwydd wedi gwella yn ogystal â lefelau siwgr yn fy ngwaed, sydd wir yn fy helpu i reoli fy niabetes. Rwyf bob amser yn rhedeg gyda thriniaeth hypo sy'n gweithredu'n gyflym i sicrhau fy mod yn cadw fy hun yn ddiogel ac mae hyn wedi rhoi tawelwch meddwl i mi wrth i mi ddechrau'r daith hon. Alla i ddim aros i wneud y parkrun llawn ym Mhenallta ar 21ain Mehefin i gefnogi Diabetes.”
Mae Karen yn cymryd rhan yn rheolaidd yn parkrun Cwmbrân fel rhedwr ac fel gwirfoddolwr, ac mae eisoes wedi cwblhau 34 o parkruns ac wedi helpu mewn 7, gan ddefnyddio'r profiad i wella ei ffitrwydd a’i hiechyd meddwl a gwneud mwy o ffrindiau.
“Mae wedi fy helpu i ddod yn heini er mwyn cwblhau hanner marathon i godi arian at elusen. Gwnes hyn y llynedd yng Nghaerdydd. Rydw i hefyd wedi colli stôn ers dechrau, wedi gwneud llwyth o ffrindiau newydd a dod o hyd i gymuned go iawn. Mae'n fy helpu i reoli straen dydd i ddydd ac yn cadw fy iechyd meddwl yn sefydlog.”
“Mae’r parkruns hyn yn gymdeithasol ac yn gynhwysol iawn – mae gennym ni redwyr dall a phobl hŷn sy’n dod i gerdded yn unig,” ychwanegodd. “Byddwn i’n annog unrhyw un i fynd i’w parkrun lleol, cwrdd â phobl newydd, dod yn fwy heini a byw bywyd hirach ac iachach!”
Gall diabetes arwain at gymhlethdodau difrifol, gan gynnwys anabledd a marwolaeth. Gall diabetes math 2, yn benodol, effeithio'n sylweddol ar unigolion a'u teuluoedd. Gall pobl ddysgu mwy am Ddiabetes drwy ymweld â: Diabetes UK - Know diabetes. Fight diabetes. | Diabetes UK.
Dywedodd yr Athro Tracy Daszkiewicz, Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd Gwent:
“Rydym wrth ein bodd yn gweithio mewn partneriaeth gyda Diabetes UK a parkrun i godi ymwybyddiaeth am Ddiabetes yn ein cymunedau ledled Gwent.
Mae diabetes yn bryder iechyd cyhoeddus allweddol gan ei fod yn effeithio ar dros 8% o oedolion ledled Gwent. Ond mae yna lawer y gall pobl ei wneud i leihau eu risg o gael Diabetes, ac mae parkrun yn ffordd wych a rhad ac am ddim o wneud hynny – gan wella iechyd corfforol a meddyliol wrth gael hwyl ar yr un pryd”.
Dewch o hyd i'ch parkrun agosaf
Mae mwy o wybodaeth am y digwyddiad i'w chael ar wefan parkrun Penallta; gellir dod o hyd i wybodaeth am y parkruns eraill sy'n digwydd bob penwythnos ledled Gwent yma.