Neidio i'r prif gynnwy

Nyrs Leol yn Achub Dyn o Draciau Trên

Dydd Llun 13 Chwefror 2023

Fel Nyrs, mae Olivia Davies, 27 oed, yn yr arfer o ofalu am eraill. Ond wrth iddi aros am drên ar ddiwrnod allan haeddiannol gyda'i ffrindiau Ddydd Sadwrn diwethaf, nad oedd hi'n ymwybodol y byddai'n achub bywyd dyn pan syrthiodd ar y cledrau yn anfwriadol.

Wrth aros ar y platfform yng ngorsaf drenau Glyn Ebwy ar Ddydd Sadwrn 4 Chwefror, gwelodd Olivia a'i ffrindiau dyn cyfagos mewn cadair olwyn yn mynd yn anymwybodol, lle'r oedd ei gadair olwyn yn disgyn yn syth o'r platfform ac ar y cledrau. Gan weithredu’n sydyn iawn, neidiodd Olivia a’i ffrindiau ar y traciau i helpu’r gŵr i’w godi a’i wneud yn ddiogel, cyn codi ei gadair olwyn yn ôl ar y platfform.

Diolch byth, roedd pawb yn saff i ffwrdd o’r traciau erbyn i’r trên gyrraedd- dim ond tri munud yn ddiweddarach!

Gwiriodd Olivia, Nyrs Gardioleg yn Ysbyty Athrofaol y Faenor yng Nghwmbrân, y gŵr, a oedd yn ymwybodol. Ar ôl dioddef rhai mân anafiadau, bu'n rhaid iddo aros yn yr ysbyty am gyfnod byr, ond ers hynny mae wedi dychwelyd adref at ei deulu.

 

Wrth siarad am y profiad, dywedodd Olivia: “Ni wnaethon ni meddwl am y peht, fe wnaethon ni redeg yn syth. Rydw i mor falch ein bod ni wedi llwyddo i’w helpu a’i fod yn iawn.”

 

Mae cydweithwyr a theulu Olivia yn falch iawn ohoni hi a’i ffrindiau am eu gweithredoedd arwrol.

 

Dywedodd Olivia, a gymhwysodd fel Nyrs ddwy flynedd yn ôl, “Rwy’n caru fy swydd a gofalu am bobl.”

 

Nid yw pob arwr yn gwisgo clogyn, mae rhai yn gwisgo stilettos!