Mae nyrsys Ffilipinaidd o Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi cynrychioli Cymru mewn ymweliad unwaith-mewn-oes â chartref plentyndod Florence Nightingale. Trefnwyd y profiad rhyfeddol i Lea Hurst, a gynhaliwyd ar 12 Medi, gan Lysgenhadaeth Philippine yn y DU, mewn partneriaeth â Mr Peter Kay, perchennog y tŷ hanesyddol.
Mynychodd Nyrs Arbenigol Ymchwil Clinigol Gwent, Regina Reyes, y digwyddiad fel Cadeirydd Cymdeithas Nyrsys Philippine (PNA) yn y DU ac roedd yn anrhydedd cael cwmni ei chydweithwyr o Went – Redentor Alzate, Ymarferydd Nyrsio Brys yn Uned Mân Anafiadau Ysbyty Brenhinol Gwent, a Sabrina Cox, Nyrs Endosgopi Clinigol yn Ysbyty Brenhinol Gwent. Ymunodd cydweithwyr PNA o Fyrddau Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro a Betsi Cadwaladr â nhw hefyd.
Dechreuodd y digwyddiad gyda chanu Anthem Genedlaethol Philippine, "Lupang Hinirang," ac yna croeso cynnes gan Mr Kay, perchennog cartref Florence Nightingale yn Swydd Derby, a fynegodd ei ddiolchgarwch dwfn am gyfraniadau amhrisiadwy gweithwyr gofal iechyd Ffilipinaidd i'r GIG. Fel brodor o ogledd Cymru, roedd Mr Kay wrth ei fodd yn gweld cynrychiolwyr o Gymru ar safle mor arwyddocaol yn hanes nyrsio, hyd yn oed yn rhannu geiriau Cymraeg fel "Diolch i bawb".
Traddododd Ei Ardderchowgrwydd, Llysgennad Philippine i'r DU, Mr Teodoro Locsin Jr., araith deimladwy a oedd yn cydnabod rôl hanfodol Ffilipiniaid, yn enwedig nyrsys, yn system gofal iechyd y DU. Amlygodd sut mae nyrsys Ffilipinaidd nid yn unig yn achub bywydau ond hefyd yn dod â thosturi a rhagoriaeth i'w gwaith, gan ymgorffori gwerthoedd Florence Nightingale.
Cafodd y mynychwyr daith dywys o amgylch y plasty hanesyddol, lle buont yn archwilio ystafell a swyddfa Florence Nightingale, a hyd yn oed edrych ar bortread gwreiddiol ohoni gyda'i hanifail anwes, Athena. I werthfawrogi eu hymweliad, cyflwynwyd danteithion traddodiadol Ffilipinaidd a Phicau ar y Maen i Mr Kay a'i Ardderchogrwydd, Mr. Locsin, fel symbol o'u diolchgarwch a'r bont rhwng y ddau ddiwylliant.
Dywedodd Sabrina Cox, Nyrs Endosgopi Clinigol yn Ysbyty Brenhinol Gwent:
“Fel Nyrs falch a Addysgwyd yn Rhyngwladol ac Ysgrifennydd Gweithredol Cymdeithas Nyrsys Philippine y DU Cymru, roedd cael ein hamgylchynu gan gyd-weithwyr proffesiynol gofal iechyd Ffilipinaidd yn hynod ysbrydoledig ac yn amlygu cryfder, undod a balchder yn ein cymuned. Rydym yn ddiolchgar iawn i PNA UK am wneud yr ymweliad hwn yn bosibl.
"Roedd mynychu'r digwyddiad yng nghartref plentyndod Florence Nightingale yn brofiad hynod o deimladwy. Roedd cerdded yn ôl troed yr arloeswr nyrsio modern ochr yn ochr â'm cydweithwyr uchel eu parch yn fy atgoffa o'r etifeddiaeth ddofn rydyn ni'n ei chynnal bob dydd. Roedd yn gyfle gwych i fyfyrio ar ei hetifeddiaeth hi a dathlu cyfraniadau sylweddol nyrsys Ffilipinaidd i’r GIG.”
Dywedodd Regina Reyes, Nyrs Arbenigol Ymchwil Clinigol yn Ysbyty Brenhinol Gwent:
“Roeddem yn teimlo ymdeimlad dwfn o berthyn a gwerthfawrogiad gan ein bod wedi ein hamgylchynu gan gymaint o nyrsys Ffilipinaidd. Roedd hyd yn oed yn fwy arbennig bod y digwyddiad hwn yn cyd-daro â Mis Treftadaeth ESEA (Mis Treftadaeth Dwyrain a De-ddwyrain Asia), sy'n dathlu hanes cyfoethog, diwylliant a chyfraniadau cymunedau Dwyrain a De-ddwyrain Asia. Roedd bod yno yn ystod mis mor arwyddocaol yn ychwanegu haen ddyfnach o falchder, wrth i ni barhau i amlygu ac anrhydeddu rôl hanfodol nyrsys Ffilipinaidd yn y DU a thu hwnt."
Bu Redentor hefyd yn rhoi sylw i'r balchder a deimlai o fod yn rhan o ddigwyddiad mor unigryw ac arwyddocaol.
Nid taith trwy hanes yn unig oedd yr ymweliad â Lea Hurst; roedd yn ddathliad o etifeddiaeth barhaus Florence Nightingale a'r nyrsys Ffilipinaidd sy'n parhau i gynnal ei gwerthoedd yn system gofal iechyd y DU heddiw.