Neidio i'r prif gynnwy

Nyrsys addysgedig rhyngwladol yn nodi 25 mlynedd o wasanaeth yng Ngwent

Mae'r wythnos hon yn nodi 25 mlynedd ers i'r garfan gyntaf o nyrsys addysgedig rhyngwladol gyrraedd o Ynysoedd y Philippines i ddechrau eu gyrfaoedd gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, gan gefnogi cleifion a gwasanaethau ledled Gwent. 

Cyrhaeddodd dros 60 o nyrsys y DU ym mis Mehefin 2001, gan lanio yn Heathrow cyn dechrau swyddi mewn ysbytai lleol gan gynnwys Ysbyty Brenhinol Gwent ac Ysbyty Nevill Hall. Dros y 25 mlynedd diwethaf, maent wedi dod yn rhan annatod o weithlu'r Bwrdd Iechyd, gan ddarparu gofal tosturiol, datblygu gwasanaethau ac adeiladu cysylltiadau cryf o fewn y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu. 

I nodi'r garreg filltir, daeth y nyrsys ynghyd â chydweithwyr o bob rhan o Went ar gyfer digwyddiad dathlu ddydd Sadwrn diwethaf. Roedd y digwyddiad yn cynnig cyfle i fyfyrio ar 25 mlynedd o'u gyrfaoedd ysbrydoledig a'u cyfeillgarwch parhaol. 

Mae llawer o'r nyrsys o'r garfan wreiddiol wedi mynd ymlaen i adeiladu gyrfaoedd hir ac amrywiol o fewn y Bwrdd Iechyd, gan symud ymlaen i rolau arbenigol, arweinyddiaeth ac ymarfer uwch, tra'n parhau i ffocysu’n gadarn ar ofal sy'n canolbwyntio ar y claf. 

Ymhlith y rhai a fyfyriodd ar y daith oedd Lilibeth De La Rama, sydd bellach yn Ymarferydd Nyrsio, a Cynthia Bermas, sy'n gweithio yn yr Uned Gofal Cardiaidd yn Ysbyty Brenhinol Gwent. Mae'r ddau wedi treulio llawer o'u gyrfaoedd yn gofalu am gleifion ar draws Ysbyty Nevill Hall ac Ysbyty Brenhinol Gwent. 

Dywedodd Lilibeth: "Pan gyrhaeddon ni, roedden ni'n gwisgo cotiau ym mis Mehefin. Rwy'n cofio gofyn, 'Pam mae pawb yn gwisgo siorts?' Mae'n anodd credu ei fod wedi bod yn 25 mlynedd, mae'n teimlo fel ddoe." 

Gadawodd Lilibeth a Cynthia eu plant ifanc yn y Philippines pan ddaethon nhw i'r DU yn 2001, penderfyniad maen nhw'n ei ddisgrifio fel un o'r anoddaf, ond un sy'n cael ei yrru gan ymdeimlad cryf o ddyletswydd broffesiynol. 

Dywedodd Cynthia: "Cawsom ein cyflogi oherwydd ein sgiliau, ond nid yw sgiliau werth unrhywbeth os nad ydych chi'n angerddol ac yn dosturiol am fod yn nyrs. Dyna beth wnaethon ni ei ddangos. Dyna pam rydyn ni'n dal yma ar ôl 25 mlynedd. Rydym yn canolbwyntio ar y claf, ac mae cleifion yn aml yn dweud wrthym eu bod yn gallu gweld ein gwên, hyd yn oed pan fydd y ward yn brysur." 

Ychwanegodd Lilibeth: "Fy uchafbwynt proffesiynol yw gwasanaethu a thrin cleifion, mae hynny wrth wraidd bod yn nyrs. Rwy'n falch ohonom i gyd sydd wedi mynd i wahanol gyfeiriadau yn ein gyrfaoedd yma. Yn bersonol, rydw i bellach yn 53 ac yn nain i ddau o blant!" 

I Cynthia, mae gallu ailuno ei theulu yn y DU yn sefyll allan fel eiliad ddiffiniol. 

Dywedodd Cynthia: "Y peth mwyaf gwerth chweil i mi oedd ein bod ni'n gallu dod â'n teulu cyfan drosodd yn y pen draw. Mae ein plant wedi tyfu i fyny nawr. Diolch am ein cael ni, ac am ein derbyn am bwy ydym ni" 

"Ar ôl 25 mlynedd, mae'n arbennig iawn cael eich cydnabod," ychwanegodd Lilibeth.