Dechreuodd Richard Wheeler, Tech OT o Dîm Iechyd Meddwl Cymunedol Gorllewin Mynwy, ei daith parkrun chwe blynedd yn ôl ar ôl gweld rhaglen deledu. Ar y pryd, roedd bron yn 14 stôn, yn ysmygu 30 sigarét y dydd, ac yn teimlo’n flinedig. Penderfynodd roi cynnig ar parkrun – ac nid yw wedi edrych yn ôl ers hynny. Heddiw, mae Richard wedi cwblhau dros 200 parkrun, wedi rhoi’r gorau i ysmygu, colli pwysau, ac yn dweud ei fod yn fwy heini ac yn hapusach nag erioed.
“Mae parkrun yn fwy na rhedeg yn unig – mae’n gymuned, cyfle i gysylltu, ac yn ffordd brofedig o wella’ch hwyliau, lleihau straen, a theimlo’n rhan o rywbeth cadarnhaol.”
“Mae rhedeg yn helpu i glirio fy meddwl o bryderon a straen. Mae fy nghwsg yn well, mae fy hwyliau’n well – felly beth sydd ddim i’w garu? Mae parkrun Aber-bîg yn fwyaf cyfeillgar yng Nghymru (os nad yn y byd)!” meddai Richard.
Cyngor Richard? “Peidiwch â phoeni am eich cyflymder – mae’n gyflymach na eistedd ar y soffa.” P’un a ydych yn cerdded, jogio, rhedeg neu wirfoddoli, mae parkrun yn cynnig ymdeimlad o berthyn a phwrpas. Hefyd, mae’n rhad ac am ddim, yn hwyl, ac weithiau mae ‘na gacen!
Chwilio am ffordd i wella’ch lles meddyliol a chorfforol eleni? Beth am ymuno â ni yn parkrun Aber-bîg ar gyfer digwyddiad arbennig sy’n canolbwyntio ar iechyd meddwl a lles.
Bydd elusennau ac sefydliadau iechyd meddwl a lles megis Mind a Tidy Butt hefyd yn bresennol ar y diwrnod i gynnig arweiniad, cefnogaeth a chyfeirio at wasanaethau sydd ar gael i bobl Gwent.
Nodwch y dyddiad:
📅 Dydd Sadwrn, 7 Chwefror 2026
📍 parkrun Aber-bîg
🎯 Thema: Iechyd Meddwl a Lles
Dewch â’ch ffrindiau, eich teulu, neu chi eich hun – a darganfod sut y gall parkrun wneud gwahaniaeth i chi.